Beiciwr modur mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad ym Môn
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger pentref Bethel ar Ynys Môn
Mae beiciwr modur yn ei 20au mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ar Ynys Môn nos Wener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha arian a Vauxhall Astra ar y B4422 ger Bethel, Bodorgan ychydig cyn 19:30.
Cafodd y beiciwr modur, oedd wedi teithio o gyfeiriad Llangefni, ei gludo i Ysbyty Aintree yn Lerpwl gydag anafiadau allai beryglu ei fywyd.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu a welodd y beiciwr modur ychydig cyn y digwyddiad, i gysylltu gyda nhw ar 101 gyda'r rhif cyfeirnod 21000427614.