Marwolaeth Llanelwy: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 57 oed a gafodd ei arestio wedi i ddyn farw yn dilyn digwyddiad yn Sir Ddinbych wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Bu'n rhaid cludo dyn 58 oed i'r ysbyty yn dilyn ymosodiad tu allan i dŷ yn Llanelwy ddydd Mercher 16 Mehefin ond bu farw'n ddiweddarach.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru mae "ymholiadau'n parhau i gadarnhau holl amgylchiadau'r ymosodiad a ddigwyddodd tu allan i eiddo yn Llys Clwyd".
Dywedodd y Prif Arolygydd Emma Naughton: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu'r dyn, sy'n cael cefnogaeth swyddogion cyswllt teulu arbenigol.
"Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un all wedi bod yn ardal Llys Clwyd ychydig cyn 17:00 brynhawn Mercher i gysylltu â ni."
Mae modd gwneud hynny ar-lein neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 21000421960.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021