Gemau Paralympaidd Tokyo: Tri o Gymru yn nhîm Prydain

  • Cyhoeddwyd
Sabrina Fortune, Aled Davies a Hollie ArnoldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Cymry sydd yn y dwsin: Sabrina Fortune, Aled Sion Davies a Hollie Arnold

Mae triawd o Gymru wedi cael eu cynnwys yn y don gyntaf o 12 dewis ar gyfer tîm athletau Prydain ar gyfer Gemau Paralympaidd Tokyo.

Bydd y pencampwr byd taflu pwysau Sabrina Fortune, Aled Sion Davies (taflu pwysau) a Hollie Arnold (gwaywffon) yn cynrychioli Prydain yn Japan ym mis Awst.

Mae Hannah Cockroft, Richard Whitehead, Jo Butterfield, Jonathan Broom-Edwards, Maria Lyle a Sophie Hahn i gyd wedi eu henwi hefyd.

Mae chwech o enillwyr medalau aur Rio 2016 - gan gynnwys Davies ac Arnold - ymysg y dwsin.

Bydd y rhedwr Thomas Young yn gwneud ei ymddangosiad Paralympaidd cyntaf.

Mae'r raswyr cadeiriau olwyn Kare Adenegan ac Andrew Small, sydd â medalau byd a Pharalympaidd i'w henw, yn cwblhau'r 12.

Bydd cyhoeddiad am weddill y tîm ar 21 Gorffennaf cyn dechrau'r Gemau ar 24 Awst.

Enillodd Prydain 33 medal, gan gynnwys 15 aur, yn Rio bum mlynedd yn ôl.

Pynciau cysylltiedig