Covid yn oedi triniaethau ail-greu wedi masectomi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Janet Harris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Janet Harris wedi bod yn aros am dros flwyddyn am lawdriniaeth

Mae dynes gafodd masectomi ar ôl cael canser y fron wedi gwneud ple iddi allu cael llawdriniaeth ar gyfer ail-greu bron newydd ar ôl bod ar restr aros am dros flwyddyn.

Cafodd Janet Harris lawdriniaeth i dynnu meinweoedd o'i brest ym Mai 2019 ac mae hi angen llawdriniaeth gymhleth i ail-greu bron newydd.

Ond oherwydd Covid, dywed Bwrdd Iechyd Bae Abertawe eu bod wedi gorfod blaenoriaethu llawdriniaethau arall yn y maes ail-greu, gan gynnwys pobl sydd wedi colli coes neu fraich.

Mae'r bwrdd wedi ymddiheuro am yr oedi.

Mae Ms Harris, sy'n 64 ac o Lan-maes ym Mro Morgannwg, wedi bod ar y rhestr aros ers Ionawr 2020.

Dywedodd fod y cyfan wedi effeithio ei hyder.

"Dwi ddim yn hoffi edrych yn y drych. Mae'n well gennyf guddio'r holl beth oddi wrthyf i fy hun.

"Mae'n anodd i fenywod, mae'n anodd teimlo fel menyw lawn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Janet
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Janet Harris ei mastectomi ym Mai 2019

Dywedodd ei bod yn gwneud ei phle ar gyfer pob menyw sydd angen y math yma o lawdriniaeth - sef bod angen i'r llawdriniaethau ailddechrau.

Dywedodd pan glywodd ei bod yn dioddef o ganser y fron ei fod yn brofiad hunllefus ond fod y cynnig o gael llawdriniaeth ail-greu wedi lleddfu ychydig ar y sefyllfa.

Roedd y broses yn cael ei gymhlethu oherwydd yn gyntaf y byddai angen iddi gael cwrs radiotherapi a chemotherapi.

Mae'r llawdriniaeth arbenigol yn cael ei wneud yn Ysbyty Treforys a hynny ar gyfer cleifion ledled Cymru.

Dywed Janet ei bod yn deall yr her ychwanegol mae'r pandemig wedi ei greu, ond ei bod yn ysu am atebion.

"Dwi'n meddwl oherwydd y sefyllfa gyda Covid, y bod yn rhaid i hynny gael blaenoriaeth... y byddai'n rhaid oedi popeth arall.

"Ond nawr mae pethau'n wahanol, a dwi'n meddwl y dylai pethau ailddechrau," meddai.

"Roedd hi'n ddwy flynedd yn ôl i mi gael masectomi a fy uchelgais oedd mai hwn fyddai diwedd y peth.

"Byddwn yn cael fy nghorff yn ôl ac yna gallu symud ymlaen gyda'm mwyd, felly dwi'n meddwl mai dyma be sy'n gwneud e'n anodd. Dim ond aros."

Ffynhonnell y llun, Janet Harris
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r math o lawdriniaeth y bydd Janet ei hangen yn un cymhleth

Mewn datganiad fe wnaeth y bwrdd iechyd ddweud eu bod yn ymddiheuro'n fawr am yr "oedi sydd wedi digwydd oherwydd Covid".

"Mae Covid yn golygu nid yn unig eu bod yn gorfod delio gyda rhestr hir o gleifion dros y 15 mis diwethaf, rydym hefyd yn derbyn nifer uwch o gleifion sydd ag anghenion meddygol brys.

"Canlyniad hyn yw bod capasiti yn llawer llai ar gyfer llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw.

"Mae nifer y llawdriniaethau rydym yn gallu ei wneud yn ddyddiol hefyd wedi ei effeithio gan y mesurau sydd eu hangen oherwydd Covid.

'Blaenoriaeth glinigol'

"Rydym yn blaenoriaethu'r rhai hynny sydd fwyaf angen llawdriniaeth er mwyn achub bywydau neu atal cleifion rhag colli braich neu goes.

"Ond rydym yn deall yn llwyr fod pawb sy'n aros am lawdriniaeth yn poeni pryd fydd hyn yn digwydd."

"Rydym hefyd yn cydnabod yn llawn arwyddocâd arbennig y math yma o lawdriniaeth i fenywod, a'r straen mae aros yn ei achosi.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i ailddechrau'r llawdriniaethau hyn mor fuan â phosib."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae llawdriniaeth ail-greu'r fron wedi parhau drwy'r pandemig, gyda chleifion yn cael eu trin yn ôl blaenoriaeth glinigol, ac mae'r rhain wedi eu seilio ar ganllawiau'r Coleg Brenhinol

"Yn anffodus mae amseroedd aros wedi eu heffeithio gan y pandemig, ac rydym wedi rhoi £100m i helpu byrddau iechyd i gynyddu eu capasiti ac i leihau amseroedd aros."

Pynciau cysylltiedig