'Rhestrau aros Cymru yn her sylweddol wedi'r pandemig'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dyn a menyw yn eistedd mewn ystafell arosFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd angen i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ehangu y gweithlu, cyfleusterau a seilwaith dros "nifer o flynyddoedd" i fynd i'r afael â'r llwyth o driniaethau sydd wedi'u gohirio oherwydd y pandemig, yn ôl pennaeth y gwasanaeth.

Mae Dr Andrew Goodall yn dweud y bydd adferiad y GIG a darparu digon o adnoddau i ymgymryd â thriniaethau "yn gyflymach ac yn gynt" yn her sylweddol i bwy bynnag sy'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

Mae'r ffigyrau miso yn dangos maint yr rhestrau aros sydd wedi datblygu ar ôl i lawer o driniaethau gael eu gohirio gan y GIG i flaenoriaethu Covid a gofal brys.

Rhestrau aros Cymru yn croesi 500,000

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y niferoedd yng Nghymru sy'n aros am driniaeth mewn ysbytai wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed sef 541,702.

Ond bu gostyngiad ymhlith y rhai sy'n aros mwy na naw mis. Mae'r nifer wedi gostwng i 221,849 - 4,289 yn is nag ym mis Rhagfyr.

Dyma'r tro cyntaf i niferoedd y categori yma ostwng ers dechrau'r pandemig.

Mae Dr Goodall, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn mynnu bod y gwasanaeth wedi gallu cynnal bron i ddwywaith lefel y gweithgarwch yn ystod ail don Covid o gymharu â'r gyntaf.

Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio y byddai'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y sefyllfa yn "sefydlogi ac adfer" rywfaint.

Mae Dr Goodall yn cyfaddef fod arosiadau hir yn bryder gweladwy iawn i'r cyhoedd ac y byddai'n cymryd "peth amser" i gyflawni yr holl driniaethau.

Bydd angen blaenoriaethu cleifion ar sail angen a phenderfyniadau clinigol, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru

Dim 'dychwelyd i wneud pethau fel arfer'

Er mwyn gweithio drwy'r holl driniaethau, mae Dr Goodall yn dweud bod yn rhaid i'r GIG wneud y gorau o ffyrdd newydd o weithio a ddatblygwyd yn ystod y pandemig - fel ymgynghoriadau o bell - a dim "dychwelyd i wneud pethau fel arfer".

Er hynny, mae'n dweud y byddai angen i'r gwasanaeth iechyd gael mwy o staff, mwy o gyfleusterau a gwell seilwaith i "fynd â ni drwy'r blynyddoedd sydd o'n blaenau".

Fodd bynnag, mae Dr Goodall yn rhybuddio nad yw unrhyw ymdrech i ostwng y rhestrau aros yn syml ac y bydd angen amser ar staff "blinedig" ddod at eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Staff wedi blino'

Mae Llywodraeth Cymru i fod i gyhoeddi cynllun adfer ar gyfer y GIG yn gynnar yr wythnos nesaf.

"Bydd angen i ni ehangu'r gweithlu, ehangu'r cyfleusterau ac ehangu rywfaint o'r seilwaith a fydd yn angenrheidiol i fynd â ni drwy nifer y blynyddoedd sydd o'n blaenau.

"I lywodraeth newydd bydd angen iddyn nhw adolygu'r hyn y bydd angen i'r GIG ei wneud ond o leiaf bydd gennym fframwaith clir ar waith i ganiatáu a chefnogi unrhyw lywodraeth a gweinidogion newydd ynglŷn â'r dewisiadau y bydd angen iddyn nhw eu gwneud.

"O safbwynt y GIG mae yna bethau y byddwn am eu gwneud yn gynt ond byddwn am sicrhau bod gennym yr adnoddau sydd ar gael.

"Un o'r pethau rwy'n pryderu'n fawr amdano o hyd, yw bod ein staff wedi profiadau'r 12 mis diwethaf wedi blino'n lân, gan eu bod wedi cefnogi a diogelu poblogaeth Cymru.

"Dyw ceisio mynd i'r drefn o adfer ddim fel 'troi switsh', mae'n golygu bod yn rhaid cael rhyw ffordd o ganiatáu i staff gryfhau, ond rwy'n gwybod y byddan nhw'n canolbwyntio'n broffesiynol ar gleifion i'w cael drwy'r system.

"Ond mae ein timau clinigol eisiau gwybod sut y gallan nhw ddychwelyd i gyflawni eu gweithgareddau arferol ac mi fydd yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd i wneud y peth iawn i bobl Cymru yn dod drwodd yn gryf iawn hyd yn oed os bydd yn rhaid i ni eu cefnogi."

Dadansoddiad Huw Thomas - Gohebydd Gwleidyddol:

Mae'r amseroedd aros yn dangos yr her anferth sy'n wynebu gweithwyr y gwasanaeth iechyd.

Mae'r data hefyd yn tanlinellu sut mae'r esgid yn parhau i wasgu, tra bod achosion Covid-19 yn y gymuned wedi gostwng yn sylweddol - ar gyfartaledd - ers Ionawr.

Er i rai gwasanaethau barhau yn ystod ail don y pandemig, mae systemau'r gwasanaeth iechyd dal yn trio ail-ddechrau ac mae'r staff wedi blino.

Mae 'na bryderon hefyd am y cleifion sydd wedi colli cael diagnosis prydlon yn ystod y pandemig, neu sydd wedi derbyn triniaeth am gyflyrau fel canser yn hwyrach na'r disgwyl oherwydd prysurdeb y GIG.

Rhybudd y pennaeth, Dr Andrew Goodall, yw bod angen arian ac amser i ddatrys gwaddol Covid-19 ar ein hysbytai.