DVLA: Gweinidog yn gwrthod ateb honiadau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Outside DVLA offices
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r DVLA yn cyflogi tua 6,000 o weithwyr yn ardal Abertawe

Mae un o weinidogion llywodraeth y DU wedi gwrthod ateb cwestiynau yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl cael ei holi ai ef oedd yn gyfrifol am roi terfyn ar gytundeb allai wedi dod â'r anghydfod yn y DVLA i ben.

Mae gweithwyr yn Abertawe yn streicio oherwydd pryderon ynglŷn â mesurau diogelwch Covid.

Yn ôl undeb y PCS roedd cytundeb ar fin cael ei arwyddo ond cafodd ei dynnu nôl ar y funud olaf.

Yn ei dro mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps wedi cyhuddo'r undeb o newid eu gofynion er mwyn hawlio mwy o arian.

Mae Mr Shapps yn dweud fod miliynau wedi eu buddsoddi er mwyn gwneud yn DVLA yn ddiogel.

Fe gafodd ymlediad coronafeirws ei gadarnhau yn swyddfeydd y DVLA yn Abertawe fis Rhagfyr y llynedd, ar ôl 352 o achosion mewn pedwar mis.

Erbyn Ebrill roedd y safleoedd, sy'n cyflogi tua 6,000, wedi cofnodi dros 500 o achosion Covid ers mis Medi'r llynedd.

Mae yna weithredu diwydiannol wedi bod ers mis Ebrill. Dywed yr undeb bod 700 ar streic dridiau ar hyn o bryd, ac mae disgwyl gweithredu pellach yr wythnos nesaf.

Yn ôl yr undeb roedd yna gytundeb ar y gorwel, gan gynnwys taliad o £200 i'r gweithwyr, a bod gweithwyr sydd wedi bod i ffwrdd o'r gwaith - ond yn derbyn tal - oherwydd Covid yn cael dychwelyd yn raddol.

Yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd Tonia Antoniazzi, AS Gŵyr, fod y PCS a'r Asiantaeth wedi dod i gytundeb bythefnos yn ôl fyddai'n dod â'r anghydfod i ben.

"Mewn datblygiad, sy'n ddigynsail mewn 20 mlynedd yn ymwneud â thrafodaethau o'r fath yn y gwasanaeth sifil, fe wnaeth yr adran droi cefn ar y cytundeb," meddai.

"Cytundeb roedd llawer ohono wedi ei lunio ganddyn nhw eu hunain, a heb air o esboniad."

Dywedodd fod y llywodraeth yn gwrthod dod i gytundeb oherwydd rhesymau ideolegol gan ofyn: "A yw'r PCS yn gywir wrth feddwl fod y cytundeb wedi ei wrthod ar y funud olaf oherwydd ymyrraeth uniongyrchol yr Ysgrifennydd gwladol?"

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Grant Shapps fod y streic yn ddiangen

Ni wnaeth Mr Shapps ateb y cwestiwn yn uniongyrchol, ond dywedodd fod y streic yn ddiangen.

Dywedodd fod y gweithredu i "fod ynglŷn â diogelwch ond mewn gwirionedd mae £4.7m wedi ei fuddsoddi yn y DVLA i'w wneud yn ddiogel rhag Covid".

"Mae adeilad ychwanegol wedi cael ei rentu, mae sustemau awyru wedi newid fel bod aer yn dod yn uniongyrchol o'r tu allan."

Cyhuddodd yr undeb o newid eu gofynion ynglŷn â diogelwch i "hawlio tal a gwyliau, sydd wnelo dim a bod yn ddiogel rhag Covid."

Dywedodd Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol y PCS fod Mr Shapps wedi gwrthod sawl tro i ateb cwestiynau gan aelodau seneddol.

"Mae ei ymgais i roi'r bai ar staff y DVLA sy wedi bod yn gweithio'n galed am y sefyllfa yn dangos diffyg dewrder gweinidog sy'n gwrthod cyfadde' yr hyn mae wedi ei wneud ."

Galwodd Mr Serwotka am i'r cytundeb gwreiddiol cael ei roi yn ôl ar y bwrdd.

Gwnaed cais i'r Adran Drafnidiaeth am sylw.