Clwstwr Covid y DVLA yn swyddogol 'ar ben'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
DVLA AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan fod y clwstwr achosion coronafeirws yn y DVLA yn Abertawe yn swyddogol ar ben.

Bu ICC yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch er mwyn rheoli'r clwstwr.

Ers 1 Medi mae cyfanswm o 560 achos o Covid-19 wedi eu cadarnhau ymysg gweithwyr yn y DVLA.

Dywedodd Siôn Lingard, Ymgynghorydd Gwarchod Iechyd gyda ICC: "Mae bob asiantaeth wedi cydweithio'n agos gyda'r DVLA er mwyn lleihau nifer yr achosion yn y gweithlu.

"Gan na fu achos cysylltiedig ymysg staff yn y 28 diwrnod diwethaf, gallwn gadarnhau bod y penderfyniad wedi ei wneud i ddatgan bod y clwstwr ar ben.

"Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa... ac yn parhau i gyfarfod gyda'r DVLA yn gyson.

Ymestyn profion

"Gall gweithwyr mewn unrhyw weithle fod mewn perygl o gael eu heintio felly rydym yn atgoffa'r cyhoedd fod gan bawb rôl allweddol i atal ymlediad coronafeirws o dan lefel 4 o gyfyngiadau Llywodraeth Cymru.

"Wrth i ni weithio i iselhau lefelau Covid yn gyffredinol ac i lacio cyfyngiadau, mae'n bwysig ein bod yn adnabod cymaint o achosion ag sy'n bosibl er mwyn rhoi cyngor a chymorth, ac i leihau ymlediad.

"Mae Byrddau Iechyd Bae Abertawe a Hywel Dda felly wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ymestyn y cynnig o brofion Covid i'r rhai sy'n byw yn eu hardaloedd.

"Mae'r cynnig wedi ymestyn hefyd i gynnwys y rhai sydd â symptomau tebyg i'r ffliw, gan gynnwys cur pen, poen yn y cyhyrau, blinder, dolur gwddf a tisian. Gall y cyhoedd gael mynediad at brawf yn y modd arferol.

"Rydym hefyd yn atgoffa'r cyhoedd... po fwyaf o bobl y byddwch yn cymysgu gyda nhw, y mwyaf yw'r risg o ledu ac o gael coronafeirws."