Gweithwyr DVLA Abertawe i fynd ar streic eto fis nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr y DVLA yn Abertawe yn bwriadu cynnal streic arall fis nesaf dros bryderon iechyd a diogelwch wedi clwstwr o achosion Covid-19.
Dywed undeb y PCS ddydd Mercher eu bod wedi rhagrybuddio'r asiantaeth o fwriad i gynnal streic o 4 Mai tan 7 Mai.
Mae'n dilyn streic bedwar diwrnod "lwyddiannus" ym mis Ebrill yn y ganolfan ble mae 1,400 o aelodau'r undeb yn cael eu cyflogi.
Mae'r undeb yn pwyso am adael i fwy o staff weithio o adref, gan ddweud bod "dros 2,000 o staff yn gorfod mynd i'r safle bob dydd".
Mae'r DVLA wedi dweud eu bod wedi dilyn canllawiau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn gyson.
Galw am 'gymryd pryderon o ddifri'
Cafodd 560 o achosion coronafeirws eu cofnodi ymhlith staff y ganolfan rhwng Medi'r llynedd a Chwefror eleni.
"Bydd PCS unwaith eto'n gofyn i'r holl staff sy'n gorfod mynd i'r gwaith i weithredu," medd datganiad yr undeb.
"Mae hyn er mwyn cael uwch reolwyr y DVLA i gymryd pryderon iechyd a diogelwch o ddifri a lleihau nifer y bobl ar y safle."
Mae'r undeb "wedi ailddechrau trafodaethau manwl" gyda'r asiantaeth ers y streic ddiwethaf "i archwilio a ellir dod i gytundeb i ddod â'r anghydfod i ben".
Ond "yn sgil diffyg symud gan y cyflogwr ac i gynnal momentwm y streic gyntaf", argymhellodd pwyllgor gwaith y gangen leol y "dylid galw rhagor o ddyddiau streic".
Pleidleisiodd 94% o'r aelodau o blaid streicio rhwng 4 a 7 Mai mewn cyfarfod ddydd Llun, 19 Ebrill.
Dywed yr undeb y bydd cynrychiolwyr yn parhau i gyfarfod a thrafod gyda rheolwyr i geisio dod i gytundeb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021