Pumed dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio Tomasz Waga

  • Cyhoeddwyd
Tomasz WagaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aelod o'r cyhoedd ddaeth o hyd i gorff Tomasz Waga ar stryd yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Tomasz Waga ar 28 Ionawr 2021 wedi cyhuddo pumed person mewn cysylltiad â'i lofruddiaeth.

Cyhuddwyd Ledjan Qevani 33, o Wood Green yn Llundain o lofruddiaeth ac roedd disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener.

Mae pedwar dyn arall eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth ac maen nhw yn y ddalfa'n aros am achos llys.

Cafodd Tomasz Waga o Wlad Pwyl, ond oedd yn byw yn Essex, ei ganfod yn anymwybodol ar Ffordd Westville, Pen-y-lan, ar 28 Ionawr tua 23:30.

Mae'r heddlu yn chwilio am dri dyn arall ar amheuaeth o lofruddiaeth Mr Waga: Gledis Mehalla, Elidon Elezi, ac Artan Pelluci.