Cerddwr mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro yn Llŷn

  • Cyhoeddwyd
car heddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cerddwr wedi'i anafu'n ddifrifol ar ôl cael ei daro gan gerbyd ym Mhen Llŷn nos Sadwrn.

Roedd y person yn cerdded ar lôn gefn rhwng Sarn Mellteyrn a Botwnnog am tua 23:00.

Dywedodd PC Alaw Roberts o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd fod y gyrrwr heb stopio yn dilyn y gwrthdrawiad.

"Byddwn yn annog y gyrrwr i wneud y peth iawn a chysylltu â ni," meddai.

"Yn anffodus methodd gyrrwr y cerbyd â stopio yn y fan a'r lle a chynnig unrhyw fath o gymorth i'r cerddwr a orweddai ar y ffordd mewn cyflwr difrifol.

"Mae ymholiadau'n parhau a bydd malurion o'r olygfa yn cael eu harchwilio i geisio adnabod y cerbyd dan sylw.

"Rydym yn apelio ar i dystion neu unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad hwn gysylltu â ni.

"Mae'n debygol iawn y byddai'r cerbyd wedi cael ei ddifrodi yn dilyn y gwrthdrawiad.

"Rwy'n mawr obeithio y bydd y cerddwr yn gwella'n dda."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu'r heddlu, cysylltwch â'u gwefan neu ffoniwch 101.

Pynciau cysylltiedig