Marwolaeth Tomasz Waga: Cadw pumed dyn yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae achos yn erbyn pumed dyn sydd wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd wedi ei ohirio.
Fe wnaeth Ledjan Qevani, 33, o Wood Green, Llundian ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd fore Llun.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a chafodd yr achos ei ohirio tan 13 Gorffennaf.
Roedd Mr Waga, 23 oed wedi dioddef ymosodiad "hir" cyn cael ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ar y stryd ddiwedd Ionawr.
Mae pedwar dyn arall eisoes yn y ddalfa ac wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Waga.
Bydd achos y pump yn cael ei glywed yr un pryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021