Thomas yn datgymalu ei ysgwydd yn y Tour de France
- Cyhoeddwyd
![Tim Merlier celebrates as he wins the third stage of the Tour de France](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/AA7A/production/_119124634_timmerlier.jpg)
Merlier yn croesi'n gyntaf yn y trydydd cymal
Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi datgymalu ei ysgwydd ar ôl syrthio yn nhrydydd cymal y Tour de France ddydd Llun.
Bu Thomas mewn gwrthdrawiad ar ddechrau'r cymal 182.9 cilomedr.
Roedd e i'w weld mewn poen ond fe lwyddodd i gario 'mlaen ar ôl cael triniaeth ar ochr y ffordd i roi ei ysgwydd yn ôl.
Tim Merlier enillodd y cymal.
O ran y sefyllfa ar ôl tri chymal mae Geraint Thomas 1 munud 7 eiliad y tu ôl i Mathieu van der Poel.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Y sefyllfa ar ôl tri chymal
1. Mathieu van der Poel (Ned/Alpecin-Fenix) 12awr 58munud 53eiliad
2. Julian Alaphilippe (Fra/Deceuninck-Quick-Step) +8 eiliad
3. Richard Carapaz (Ecu/Ineos Grenadiers) +31eiliad
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021