Wythnos heb farwolaeth Covid-19 am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Ni chafodd yr un farwolaeth yn ymwneud â Covid-19 ei chofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 18 Mehefin - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers dechrau'r pandemig.
Yn ystod cyfnod gwaethaf yr ail don ym mis Ionawr cafodd 83 o farwolaethau'n ymwneud â coronafeirws eu cofnodi mewn un diwrnod yn unig.
Fe gymerodd hi nes diwedd Mawrth cyn i Gymru gael diwrnod ble na fu farw unrhyw un gyda Covid-19.
Ond erbyn hyn, un farwolaeth gafodd ei chofnodi yn yr 16 diwrnod hyd at ganol Mehefin.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, hyd at 18 Mehefin bu farw 7,899 o bobl gyda coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod cyfanswm y marwolaethau o unrhyw achos yn is na'r cyfartaledd dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae'r ffigyrau yma, yn wahanol i rai Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys achosion ble mae meddygon yn amau bod Covid wedi cyfrannu at y farwolaeth, hyd yn oed os nad ydy'r person wedi cael prawf.
Mae hynny'n cynnwys marwolaethau sydd wedi digwydd yng nghartrefi pobl, cartrefi gofal a hosbisau.
Dim ond achosion ble mae claf wedi cael prawf positif am Covid-19 sy'n cael eu cyfrif yn ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond mae'r data hynny yn cael ei ddiweddaru yn fwy cyson.
Mae'r ffigyrau hynny wedi cadarnhau tair marwolaeth dros y pythefnos diwethaf hyd at 28 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021