Covid-19: Hanner poblogaeth Cymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros hanner poblogaeth Cymru bellach wedi derbyn y cwrs llawn o ddau ddos o'r brechlyn yn erbyn Covid-19.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 1,591,322 o bobl wedi cael ail ddos - 50.5% o holl boblogaeth y wlad.

Ond mae yna bryderon am gynnydd yng nghyfradd yr achosion newydd o Covid-19 yng Nghymru gyda disgwyl i'r drydedd don gyrraedd ei frig "yn hwyr y mis nesaf".

Yn siarad yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Gwener dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Beth dydyn ni ddim yn gwybod eto yw faint o effaith bydd ein cyfraddau brechu uchel yn cael a faint mae'r berthynas rhwng heintiadau ar yr un llaw, a phobl yn yr ysbyty ar y llaw arall, wedi cael ei gwanhau gan frechiadau."

Yn siarad yng Nghaerdydd ddydd Gwener dywedodd Mr Drakeford fod y data diweddaraf yn awgrymu bydd nifer yr achosion o Covid-19 yn cyrraedd ei frig "yn hwyr y mis nesaf".

"Gyda thonau blaenorol, mae oediad wedi bod rhwng achosion o fewn y gymuned yn ymddangos a chynnydd yn y nifer o bobl sydd yn yr ysbyty ac sy'n marw," meddai.

"Os mae'r don yma'n dilyn yr un patrwm, gallwn ddisgwyl gweld y rhain yn cyrraedd y brig ym mis Awst."

Ond ychwanegodd fod yna "dystiolaeth ymchwil bositif" bod brechiadau Covid-19 yn helpu atal salwch difrifol er gwaethaf yr amrywiolyn Delta, a galwodd ar bobl i gael y ddau ddos.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford na fyddai'n penodi dyddiad penodol ar gyfer llacio cyfyngiadau

Ychwanegodd Mr Drakeford fod y cynnydd yn y nifer o achosion o'r amrywiolyn Delta yn ei wneud e'n anodd penodi dyddiad penodol ar gyfer llacio cyfyngiadau'n bellach, fel mae Lloegr a'r Alban wedi gwneud.

"Does dim gwarant bydd pethau'n gwella yn y tair wythnos nesaf er rydyn dal yn obeithiol y byddan nhw," meddai.

Dyna pam mae'n fwy synhwyrol i beidio penodi dyddiadau artiffisial, fel rydw i'n gweld nhw, fel nad oes rhaid rhwygo nhw lan a dechrau eto".

Dywedodd fyddai adolygiad arall o'r cyfyngiadau mewn tair wythnos a byddai'n gallu rhoi diweddariad pellach wedyn.

'Siomedig' ddim cael dyddiad

Beirniadodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russel George, penderfyniad y Prif Weinidog i beidio pennu dyddiad ar gyfer llacio cyfyngiadau.

"Mae'n siomedig gawson ni ddim hwnna," meddai Mr George.

"Dyma beth mae pobl angen, dyma beth mae'r gymdeithas angen a dyma beth mae busnesau angen. Mae angen cael y dyddiadau yna o flaen llaw ac mae pobl yn deall os mae'r data'n newid bydd y dyddiad yn newid".

Ond dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: "Mae'n anodd rhoi dyddiadau penodol pan rydych chi'n mynd mewn i don newydd.

"Mae Boris Johnson wedi clymu'i hun lan mewn pob math o glymau yn Lloegr wrth benodi dyddiadau".

50% wedi cael ail ddos

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 1,591,322 o bobl wedi cael ail ddos - 50.5% o holl boblogaeth y wlad.

Mae nifer y bobl sydd wedi cael un dos o'r brechlyn wedi codi i 2,248,012 - 71.3% o'r boblogaeth.

Daw'r garreg filltir ddiweddaraf wrth i Lywodraeth Cymru ddatgelu bod pàs digidol bellach ar gael i bobl sydd wedi cael y brechlyn ar gyfer teithio rhyngwladol ar frys.

Yn y cyfamser, bu un farwolaeth a 336 o achosion newydd o'r feirws yn y 24 awr ddiweddaraf.

Mae cyfradd achosion Cymru hefyd yn parhau i godi - i 37.6 fesul 100,000 o bobl ddydd Gwener. Dyma'r lefel uchaf ers mis Mawrth.

Mae 5,574 o bobl wedi marw gyda'r haint yng Nghymru erbyn hyn, gyda nifer yr achosion positif yn 216,366, yn ôl y dull yma o gofnodi.

Beth yw'r pàs digidol?

Mae tystysgrifau brechu wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Mai ar gyfer y bobl sydd angen teithio'n rhyngwladol ar frys, a darparu tystiolaeth o'u statws brechu.

Bydd tystysgrifau papur yn parhau i gael eu rhoi i bobl sydd ddim yn gallu cael mynediad i'r pàs digidol.

Bydd tystiolaeth o'r brechlyn ar gael i bobl ei dangos ar eu ffôn, tabled neu liniadur.

Ond dywedodd Mark Drakeford yn gynharach yn yr wythnos na fyddan nhw ar gael drwy ap ffôn, fel sy'n digwydd dan system 'pasbortau brechiadau' Lloegr. Yn hytrach bydd yn rhaid i bobl fynd ar wefan.

Ond hyd yn oed wedyn, ni fydd yna fersiwn Gymraeg ar gael am rai misoedd, "er sawl cais i Lywodraeth y DU i barchu'r gyfraith yma yng Nghymru".

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener bod "gwaith ar y gweill i gyfuno systemau ap GIG Lloegr a GIG Cymru i alluogi i bobl yng Nghymru ei ddefnyddio".

Bydd y pàs digidol yn dangos a yw rhywun wedi cael y brechlyn, er y bydd angen gwirio'r gofynion mynediad ar gyfer y wlad fydd pobl yn bwriadu teithio iddi.

Mae mwy o wybodaeth am y pàs yma, dolen allanol.

Mae gan Gymru un o'r rhaglenni brechu cyflymaf yn y byd.

Ar 5 Ebrill, dywedodd Llywodraeth Cymru fod pawb yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf yng Nghymru - y bobl fwyaf bregus - wedi cael cynnig brechlyn yn erbyn Covid-19.

Erbyn 16 Mai, dangosodd ystadegau bod dros 2m o bobl wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Cymru ar y trywydd iawn i gynnig brechiad i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod Cymru yn parhau i fod ar y blaen i wledydd eraill y DU yng nghyfanswm cyfran y boblogaeth sydd wedi cael pigiadau.

Mae'r Alban wedi rhoi dosau cyntaf i 67.6% o'i phoblogaeth ac roedd 48.2% wedi derbyn ail ddos.

Yn y cyfamser, mae Gogledd Iwerddon wedi rhoi dosau cyntaf i 60.7% o'r boblogaeth, tra bod 43.9% wedi cael y ddau ddos. Mae Lloegr ar 65% a 47.7%.

Pynciau cysylltiedig