Yr artist graffiti Bryce Davies: Gadael marc ar wal a chroen

  • Cyhoeddwyd
bryceFfynhonnell y llun, Brycedavies

Mae Bryce Davies o Gaerdydd yn ddyn amryddawn; yn artist graffiti, yn ddylunydd tatŵs, athro dylunio i blant, yn ddyn busnes ac yn hyfforddwr nofio awyr agored.

Mae'n debyg eich bod wedi cerdded heibio enghreifftiau o'i waith, sydd i'w weld ledled Caerdydd a Chymru.

Dylanwad hip hop

Felly sut wnaeth Bryce ddechrau ei yrfa artistig? "'Nes i ddechrau gyda graffiti drwy'r ffyrdd traddodiadol mae'n siŵr, pan oeddwn yn fy arddegau tua 1999 y dechreuodd yn iawn - wnes i ddechrau gyda tagio waliau a sgrifennu fy enw."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Un o furluniau Bryce gyda'r enw mae'n ei ddefnyddio i'w waith, 'Peaceful Progress'

Roedd Bryce wastad ar ei sgefrfwrdd yn ei arddegau, ac yn ymddiddori yn y diwylliant hip hop, gan gynnwys y gerddoriaeth.

"O'n i'n rhan o'r sîn hip hop yng Nghaerdydd ar y pryd. Ma' hyn yn ffordd eitha' traddodiadol o edrych ar bethau, ond mae graffiti yn gallu cael ei ystyried fel un o'r pedwar elfen o hip-hop, sef b-boying (break-dancing), DJ-io, rap a graffiti. Ddes i fewn iddo o'r ongl yna ac o'n i'n gwneud breakdancing am flynyddoedd."

Dawn naturiol?

"Dwi'n meddwl o'n i'n eitha' artistig yn ifanc, ond ddim yn gwneud yn arbennig o wych yn yr ysgol - doedd 'na ddim byd penodol wnaeth fy ysbrydoli i yno.

"Ac yna daeth graffiti i fy mywyd - rhywbeth o'n i'n gallu ei wneud drwy'r dydd, ac efallai bod 'na twtsh o ADHD yno achos o'n i methu ffocysu a chanolbwyntio nes mi ddechrau efo graffiti."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Murlun trawiadol a wnaeth Bryce yn Nhreorci

"Rydych chi'n gallu paentio murluniau enfawr gyda graffiti ac mae'r canlyniadau yno'n syth, yn wahanol i baentio gyda olew. Dyna un o'r rhesymau pam fod graffiti'n gweithio'n dda ar gyfer gweithdai plant - mae gan blant attention span byr a mae graffiti'n rhoi canlyniadau'n syth.

"Oedd 'na ddau ohonon ni wnaeth ddechrau peintio gyda'n gilydd, ac mi roedden ni'n rhan o sîn ehangach yng Nghaerdydd. Roedden ni'n trio datblygu steil ein hunain, ond yn hoff o hanes graffiti steil ar drenau Efrog Newydd."

Agweddau at graffiti

Mae Bryce wedi bod yn artist graffiti ers 22 mlynedd, ac mae'n credu bod agweddau cymdeithas wedi newid tuag at y ffurf o gelf.

"Pan o'n i'n iau, yn nyddiau cynnar yr internet, roedd rhaid teithio ymhell i ddinasoedd eraill i weld gwaith graffiti ac roedden ni'n mynd i ddigwyddiadau graffiti a phaentio gyda pobl eraill.

"Fe ddaeth Banksy ac artistiaid eraill i'r amlwg tua'r un pryd a chreu rhyw fath o buzz o gwmpas celf stryd, sy'n wahanol i graffiti - ond i'r cyhoedd fe all y ddau gael eu ystyried yr un peth.

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Graffiti draig gan Bryce, sydd i'w gweld yng Nghaerdydd

"Nes i greu gwefan gyda fy ffrind pan o'n i'n ifanc - roedd o'n eitha' amatur ond oedden ni'n meddwl ei fod yn dda ar y pryd. Drwy hyn wnaeth bobl fy ffeindio ar gyfer gwaith, ac o'n i hefyd drwy siarad gyda phobl a chario llyfr o fy ngwaith rownd gyda fi.

"Roedd o'n 'DIY' iawn - doedd 'na ddim Facebook na Instagram yr adeg yna i hyrwyddo eich gwaith. Mae'n haws heddiw i arddangos talent, ond efallai bod rhaid chwilio dipyn am y gwaith o safon uchel.

"Heddiw mae gymaint o le heddiw i waith niche ffeindio lle - roedd hi'n anodd iawn yn y gorffennol, lle heddiw mae gwaith niche yn cael ei ddathlu."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Darn o waith gan Bryce sydd drws nesaf i Barc yr Arfau, Caerdydd

Graffiti fel bywoliaeth

Er mwyn mwynhad y dechreuodd Bryce wneud graffiti, ond fe drodd yn yrfa broffesiynol iddo. Felly, sut mae'r broses yn gweithio efo cleientiaid?

"Yn y dyddiau cynnar o'n i'n gwneud lot o weithdai graffiti, gyda chanolfannau cymdeithasol a chlybiau ieuenctid.

"Bellach dwi'n canolbwyntio mwy ar brosiectau mwy, ond mae yna ystod eang o gleientiaid - ystafelloedd gwely plant, murluniau ar gyfer ystafell fyw rhywun, ochrau tai, cerbydau, gwaith i gwmnïau corfforedig fel Go Compare, murluniau i swyddfeydd, shutters siopau a gwaith teledu hefyd. Nes i weithio gyda MTV blynyddoedd yn ôl, ac rwy wedi gweithio gyda'r BBC a S4C."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft arall o furlun Cymraeg mae Bryce wedi ei wneud

Ond mae Bryce yn credu bod rhaid pwyso a mesur wrth ddewis pa waith i'w dderbyn.

"Mae'n rhaid i'r gwaith eistedd yn iawn gyda'r math o waith dwi'n ei wneud - os bydde rhywun yn dod ata i yn gofyn am rywbeth sydd ddim yn ffitio i fi, byswn i'n ystyried os dwi am wneud y job.

"Yn dod o gefndir traddodiadol graffiti a symud i fyd mwy masnachol a creu bywoliaeth yn y maes, mae'n rhaid bod yn fwy hyblyg ac yn fwy agored i addasu eich arddull tra'n paentio.

"Falle bydde rhywun yn dod ata'i gyda syniadau am ddyluniadau portreadau neu tirluniau mwy meddal - dwi'n gwneud hynny i awdurdodau lleol. Mae fel bod gen i ddwy yrfa wahanol - y gwaith graffiti a bod yn rhan o'r gymuned yna, ac yna y gwaith sy'n talu'r bils a bod yn agored i drio a dysgu steils gwahanol."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Nid ar waliau yn unig mae'n bosib gweld gwaith Bryce

Drwy ei yrfa graffiti mae Bryce wedi dod i ddysgu am bethau oedd o ychydig ddiddordeb iddo tra yn yr ysgol.

"Mae'n ddiddorol, achos popeth oedden nhw'n trio fy nysgu i yn yr ysgol - persbectif, portreadau, yr hen feistri...o'n i'n anwybyddu rhain i gyd.

"Ond dwi wedi dod rownd mewn cylch achos drwy fy ngyrfa graffiti dwi 'di dysgu am bersbectif a sut i baentio realism, a chael ysbrydoliaeth gan weithiau dyfrlliw yr hen feistri a gwahanol estheteg."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Defnydd arbennig o liwau a dychymyg Bryce

Oes 'na snobyddiaeth tuag at graffiti?

"Efallai, ond ma' fyny i'r unigolyn. Efallai bod snobyddiaeth yn bodoli o fewn cylchoedd y byd celf, ond i'r person cyffredin yn cerdded lawr y stryd mae'r murluniau o fewn cyrraedd.

"Byddai 90% o bobl ddim yn mynd i galeri i weld lluniau ond maen nhw'n cerdded heibio graffiti ar waliau wrth y stryd neu ar shutters siopau - fe wnewn nhw weld rhain a chael perthynas gyda'r gwaith yn syth.

"Dyna yw un o'r pethau da am graffiti, dydi o ddim rhyw ffurf uchelael o gelf- gall rywun ei werthfawrogi."

Ffynhonnell y llun, Bryce davies
Disgrifiad o’r llun,

Murlun Gareth Bale gan Bryce sydd i'w weld wrth Gaeau Pontcanna - wrth ei ochr mae lluniau rhai o arwyr chwaraeon eraill Caerdydd; Tanni Grey-Thompson, Sam Warburton a Colin Jackson

"Tua 10 mlynedd yn ôl wnaethon ni sefydlu The Boiler House yng Nghaerdydd.

"Yng ngogledd Llandaf oedd e'n wreiddiol, gyda'r syniad o greu galeri graffiti a chynnal arddangosfeydd a digwyddiadau pop-up, i drio cael gwared o gamsyniadau am graffiti."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Y Boiler House yn Nhreganna, Caerdydd, ble mae Bryce yn arbrofi gyda'i greadigrwydd

Gwaith tatŵio

Yn deillio o'i waith graffiti mae Bryce hefyd yn dylunio tatŵs: "Dwi wedi bod yn tatŵio nawr ers tua naw mlynedd.

"'Nes i ddechrau gan wneud stwff geometrig ond bellach mae lot o fy ngwaith wedi ei ddylunio gyda spray paint yn y stiwdio, yna dwi'n cymryd delwedd o hynny a gwneud y tatŵ a'i wneud i edrych fel bod o wedi cael ei baentio 'mlaen."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Bryce yn gweithio yn ei stiwdio tatŵio

"Mae'n eitha' niche, ond mae'n wreiddiol ac yn driw i'r hyn dwi'n hoffi ei wneud.

"Mae gen i stiwdio tatŵio preifat lle dwi'n gwneud y gwaith a dwi'n trafod gyda'r cwsmeriaid i weld os ydyn nhw'n hapus efo fy steil i, ac os allai wneud cyfiawnder i'r hyn maen nhw eisiau."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Engreifftiau o waith tatŵio Bryce

Nofio awyr agored

Yn ogystal â'r holl waith celf mae Bryce yn ei elfen tra mae tu allan gyda natur, boed hynny ym mynyddoedd Eryri neu, yn amlach y dyddiau 'ma, yn y môr.

"Dwi'n gwneud lot o nofio môr, ond dim yn yr ystyr treiathlon neu rasio, dwi'n hoffi'r antur o ddarganfod pethau ac yn mwynhau'r awyr agored."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies
Disgrifiad o’r llun,

Bryce yn nofio oddi ar arfordir de Cymru

"Dwi'n hoff o'r ochr wyddonol hefyd a dysgu am y dŵr, ac mae'r holl bysgota dwi 'di gwneud dros y blynyddoedd wedi helpu gyda deall y llanw.

"Penwythnos nesa' fydda i'n nofio o Benarth i'r Bari, sydd jest dros 10km, ac dwi eisiau cario 'mlaen ar y llwybr yna ac nofio i Borthcawl cyn bo hir.

"Y gobaith ydy wedyn i nofio Môr Hafren o dde Cymru i Weston-super-Mare - gobeithio cawn ni wneud hynny cyn diwedd eleni."

Ffynhonnell y llun, Brycedavies

"Dwi newydd wneud fy nghymwysterau hyfforddi nofio awyr agored ac yn gwneud sesiynau yn y môr a rhannu fy angerdd amdano gyda eraill.

"Dwi ddim yn edrych i newid gyrfa, dwi jest yn mwynhau dysgu mwy am yr hyn dwi'n ei wneud - nes i yr un peth efo eirafyrddio (snowboarding) a'r gwaith graffiti dros y blynyddoedd."

Mae Bryce yn ddyn sy'n awchu am antur a sialens, felly cadwch lygad amdano i weld beth fydd yn ei wneud dros y blynyddoedd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Brycedavies

Hefyd o ddiddordeb: