Graffiti Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Celfyddyd gain? Llais y bobl? Cyfle i fynegi barn? Neu fandaliaeth pur?
Mae'n siŵr fod pob un o'r rhain yn ddisgrifiad teg a chywir am graffiti, ond fel roedd Anweledig yn canu yn 2001, "Os 'da chi'sho g'neud graffiti... gwnewch graffiti Cymraeg" - ac mae'n debyg fod artistiaid ar draws Cymru wedi gwrando ar y cyngor yna - rhai yn fwy celfydd na'i gilydd efallai.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
![Cofiwch Dryweryn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1B93/production/_97495070_cofiwchdryweryn.jpg)
Un o'r rhai enwocaf - cafodd ei baentio ar wal ar yr A487 ger Llanrhystud yng Ngheredigion yn yr 1960au. Dros y blynyddoedd, mae wedi cael ei ail-baentio nifer o weithiau oherwydd fandaliaeth, ond mae'n parhau yn olygfa eiconig ar y siwrne rhwng Aberteifi ac Aberystwyth.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
![Cofi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13D8C/production/_101729218_30a8a247-7620-40f3-8f9e-0c817a34729e.jpg)
Darn o graffiti toiled traddodiadol nawr... yn nhoiledau Llanbrynmair... neu o bosib Caernarfon, dyw'r person wnaeth dynnu'r llun 20 mlynedd yn ôl ddim yn cofio'n iawn.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
![Abertawe](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/80E2/production/_101749923_f82ffd04-6a18-4d02-9c8d-7df3a325d3b0.jpg)
Tynnu sylw haeddiannol at ddiffygion dwyieithrwydd yn Abertawe, neu fandaleiddio darn o gelf gyhoeddus?
Trafodwch.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
![Craig Elvis](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/42A3/production/_97495071_elvis2.jpg)
Mae'r deyrnged yma i Frenin Roc a Rôl i'w gweld ar yr A44 ger Eisteddfa Gurig, rhyw 10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth - er mae'n debyg mai 'Elis' oedd yn ei ddweud yn wreiddiol, ar ôl y llenor Islwyn Ffowc Elis.
Yn ddiweddar, cafodd darlun o'r ffordd a'r graig enwog gan yr artist Wynne Melville Jones ei gyflwyno i arddangosfa yng nghartref y canwr yn Graceland.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
![Caernarfon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/CF02/production/_101749925_daldydin.jpg)
Darn o graffiti yng Nghaernarfon sydd yn cofnodi un o ddywediadau naturiol y dref. Yn anffodus, mae rhai eraill na allwn eu dangos mewn fforwm cyhoeddus fel hwn.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
![Aled Hughes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6ACC/production/_97604372_aled_hughes.jpg)
Aled Hughes, cyflwynydd BBC Radio Cymru ddaeth ar draws y geiriau nerthol yma ar wal llechi yn Llanberis.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
![arwydd Mallwyd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/150D9/production/_101733268_niati'nsiwr.jpg)
Mae'r arwydd yma ger Mallwyd yng Nghanolbarth Cymru yn gosod cwestiwn ddifyr... ond pwy yw Nia, ac oedd hi'n siŵr?
Mi fyddai'n braf cael gwybod... rhywbryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd25 Mai 2016