Amddiffynwr yr Elyrch yn methu chwarae tan fis Medi

  • Cyhoeddwyd
Roedd Connor Roberts wedi chwarae ym mhob un o gemau Cymru yn Euro 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Connor Roberts wedi chwarae ym mhob un o gemau Cymru yn Euro 2020

Mae amddiffynnwr Cymru Connor Roberts yn gorfod cael llawdriniaeth ar gesail ei forddwyd a bydd allan o'r gêm tan o leiaf mis Medi.

Fe gafodd chwaraewr Abertawe ei anafu yn hanner cyntaf colled Cymru i Denmarc yn Euro 2020 ddydd Sadwrn.

Bydd yr amddiffynnwr angen llawdriniaeth ar ôl anafu rhan uchaf ei goes a bydd yn colli dechrau'r tymor nesaf.

Mae Roberts ym mlwyddyn olaf ei gytundeb gyda'r Elyrch ac mae sôn fod rhai o glybiau Uwch Gynghrair Lloegr, gan gynnwys Burnley, gyda diddordeb yno.

Fe wnaeth Roberts, sy'n 25 oed, chwarae ym mhob un o 46 o gemau Abertawe yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.