Cwpl sy'n rhan o dreial Novavax methu mynd dramor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Patricia a Brian AntlettFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Patricia a Brian Antlett benderfynu bod yn rhan o dreial Novovax er mwyn bod yn rhan o'r frwydr yn erbyn Covid

Mae cwpl o Wrecsam a wnaeth wirfoddoli i fod yn rhan o dreial brechlyn Novavax yn galw am yr hawl i gael brechlyn sydd wedi'i gymeradwyo neu ffordd arall iddyn nhw gael teithio dramor.

Mae Patricia a Brian Antlett yn awyddus iawn i ymweld â'u teulu yn Sbaen, ac mae Mr Antlett angen mynd i'r Eidal i weithio fel peiriannydd.

Roedden nhw'n rhan o dreial y brechlyn Novavax fis Tachwedd y llynedd, ac ar hyn bryd dyw'r brechlyn hwnnw ddim wedi cael ei gymeradwyo ac mae gwledydd tramor yn dweud bod angen brechlyn trwyddedig.

Dywedodd adran iechyd Llywodraeth y DU na fyddai gwirfoddolwyr ar gyfer arbrofion o dan unrhyw anfantais.

Ond yn ôl Mrs Antlett nid dyna'r sefyllfa. Dywedodd bod hi a'i gŵr "yn flin ac yn rhwystredig".

"Mae'r e-bost diweddaraf yn dweud fod y brechlyn yn cael ei gydnabod ar gyfer digwyddiadau yn y DU ond dydy gwledydd eraill ddim yn ei gydnabod. Dydy o'n werth dim ar gyfer teithio dramor," meddai Mrs Antlett.

"'Dan ni eisiau tegwch. 'Da ni'n credu ein bod wedi cael ein camarwain.

"Mae ein meddyg teulu yn deall, mae pawb yn cydymdeimlo â ni. Ond mae gwirfoddolwyr wedi'u gadael mewn sefyllfa anodd."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Novavax yn 89.3% effeithiol yng ngham tri y treial clinigol

Mae brechlyn Novavax yn cael ei asesu ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Reoleiddio a dywed y cwmni bod disgwyl iddo gael ei awdurdodi cyn diwedd y flwyddyn.

Yn ôl corff ymchwil meddygol llywodraeth y DU (NIHR) fe wnaeth dros 15,000 o bobl yn y DU gymryd rhan yng ngham tri treial Novavax, gyda channoedd o Gymru yn eu plith.

Roedd Mr a Mrs Antlett yn awyddus i fod yn rhan o'r frwydr yn erbyn Covid ac wedi cael gwybod na fydden nhw'n wynebu unrhyw anfantais drwy fod yn rhan o'r treial.

Maen nhw yn dweud hefyd iddyn nhw gael gwybod ei bod hi'n debygol y byddai'r brechlyn yn cael ei gymeradwyo yng ngwanwyn 2021.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros hanner poblogaeth Cymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn erbyn hyn

Cafodd y cwpl ddau ddos ym mis Tachwedd mewn treial lle'r oedd hanner y gwirfoddolwyr yn cael plasebo.

Fe gawson nhw wybod eu bod ill dau wedi cael y brechlyn ddwywaith.

"Ro'n i'n falch i wybod hynny," meddai Mrs Antlett, "mae hynny yn dangos bod gennym amddiffyniad ers mis Tachwedd ac fe gawson ein cynghori i beidio cael brechlyn arall.

"Ar y pryd roedd hi'n edrych yn debyg y byddai Novavax yn cael trwydded ddiwedd Ebrill ac roedd yna sôn am basborts brechu.

"Ond wrth i ni ymholi am ddyddiadau roedd y timau oedd yn gyfrifol yn teimlo cywilydd ac roedden ni'n dau yn rhwystredig."

Mae'r cwpl yn dweud eu bod wedi cael gwybod nad yw'n bosib iddyn nhw gael math arall o frechlyn - fel Pfizer neu AstraZeneca - gan nad oes data ar gymysgu'r brechlynnau.

'Onid ni biau'r dewis?'

Mae'r cwpl ar ddeall bod rhai canolfannau brechu yn Lloegr wedi caniatáu i wirfoddolwyr ddewis a oedden nhw am gael brechlyn arall.

"Dydy'r cyngor ddim yn golygu bod rhywbeth yn orfodol. Yn wir mae'r llywodraeth yn annog pob un i gael y brechlyn.

"Da ni'n teimlo nad ydyn ni wedi cael ein cynnwys yn y trafodaethau a dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r rheolau. Onid ni biau'r dewis?" ychwanega Mr Antlett.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd o Gymru wedi bod yn rhan o dreialon Novavax

Dywedodd AS Bro Morgannwg, Alun Cairns, "bod angen mwy o help ar wirfoddolwyr Novavax".

"Mae un o'm hetholwyr wedi bod mewn sefyllfa debyg - wedi gwirfoddoli ar gyfer treial Novavax ond ddim wedi cael teithio ddiwedd llynedd," meddai.

Fe wnaeth dirprwy brif swyddog meddygol y DU, yr Athro Jonathan Van-Tam nodi mewn llythyr cyhoeddus ar 11 Mehefin bod y risg o ganiatáu pobl oedd yn rhan o dreialon clinigol i deithio yn isel iawn a bod y fantais o gael gwirfoddolwyr yn llawer iawn mwy.

"Wedi i mi gyfeirio at y llythyr hwn fe wnaeth y cwmni teithio dan sylw dderbyn dilysrwydd brechlyn Novavax," meddai Mr Cairns.

"Dylai pob sefydliad teithio rhyngwladol fod yn ymwybodol o'r sefyllfa a ddyla'r gwirfoddolwyr ddim bod o dan unrhyw anfantais.

"Dyma ymdrech fyd-eang yn erbyn y pandemig ac mae angen diolch am bob cyfraniad yn hytrach na gwrthod ceisiadau."

Pynciau cysylltiedig