Cofnodi 698 achos coronafeirws newydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Brechu
Disgrifiad o’r llun,

Mae astudiaeth diweddar yn dangos bod bron i 92% o oedolion Cymru â gwrthgyrff yn erbyn y feirws erbyn hyn

Mae 698 o achosion newydd wedi cael eu cofnodi yn ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond chafodd dim marwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr hyd at 09:00 fore Gwener.

Cyfanswm yr achosion positif erbyn hyn yw 224,501, gyda chyfanswm y marwolaethau yn parhau'n 5,579, yn ôl y dull yma o gofnodi.

Mae 2,273,561 o bobl bellach wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn, sef 72.1% o'r boblogaeth, tra bod 1,825,167 o bobl wedi cael ail ddos, sef 57.9%.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Wrecsam sydd â chyfraddau uchaf Cymru yn ôl y ffigyrau hyd at 9 Gorffennaf

Mae cyfradd yr achosion dros saith diwrnod fesul 100,000 o'r boblogaeth wedi codi eto i 127.0.

Mae'r cyfraddau uchaf yn Wrecsam (320.0), Sir y Fflint (230.6), Conwy (168.1), Caerdydd (157.8) a Sir Ddinbych (155.7).

Ond mae'r gyfradd achosion yn ardal Rhos a Johnstown yn Wrecsam wedi codi i 995.9 wedi i 70 o achosion gael eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 5 Gorffennaf.

Mae'r cyfraddau isaf yng Ngheredigion (46.8), Powys (60.4), Abertawe (61.5) a Merthyr Tudful (63.0).

Roedd 245 o'r achosion newydd yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd, gan gynnwys 94 yn Wrecsam, a 103 an ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Pynciau cysylltiedig