Batiad cyntaf gweddol i Forgannwg yn Sussex
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n gêm hafal iawn rhwng Sussex a Morgannwg yn Hove, gyda'r ddau dîm yn ei chael yn anodd gyda'r bat dros y deuddydd cyntaf.
Gyda Sussex yn dechrau'r ail ddiwrnod ar sgôr o 161-7, fe lwyddon nhw i ychwanegu 65 o rediadau at eu cyfanswm ddydd Llun.
Danial Ibrahim oedd y seren iddyn nhw gyda sgôr o 58 - ag yntau ond yn 16 oed - gan eu helpu at gyfanswm o 226 yn eu batiad cyntaf.
Gweddol oedd batiad cyntaf Morgannwg hefyd, gyda David Lloyd (38) a Billy Root (37) yn ddau o'r ychydig fatwyr i greu argraff.
Fe gyrhaeddodd yr ymwelwyr gyfanswm o 205-9 - 21 rhediad yn fyr o sgôr Sussex - cyn i law atal y chwarae ychydig cyn 17:40.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2021