Dynes, 19, wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn Llangollen
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 19 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yn Llangollen nos Sadwrn.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty yn Stoke wedi'r digwyddiad yn ardal Berwyn ond bu farw o'i hanafiadau nos Lun.
Roedd hi'n teithio mewn car Renault Clio ar y pryd.
Cafodd gyrrwr 27 oed y Clio ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru yn fuan ar ôl y digwyddiad, a'i ryddhau'n ddiweddarach o dan ymchwiliad.
Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad, ac ar bobl oedd mewn tafarn yn Llangollen ar y noson.
Maen nhw'n awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio yn ardal Llangollen ychydig cyn hanner nos ddydd Sadwrn, 3 Gorffennaf.
Dywedodd y Sarjant Meurig Jones o Heddlu'r Gogledd: "Mae ein cydymdeimlad twymgalon yn aros gyda theulu'r ddynes ar yr adeg anhygoel o anodd hon.
"Mae'r ymchwiliad wedi hen ddechrau ac rwy'n parhau i annog unrhyw un a allai fod â gwybodaeth a allai ein helpu i lunio'r hyn a ddigwyddodd, i gysylltu â ni ar unwaith.
"Rwyf hefyd yn parhau i apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn Nhafarn y Bridge yn Llangollen yn hwyr gyda'r nos ddydd Sadwrn, 3 Gorffennaf, ac a allai ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â'r ymchwiliad, i gysylltu."