Gêm gyfartal i Forgannwg a Sussex yn Hove
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Morgannwg i sicrhau gêm gyfartal oddi cartref yn Sussex ar y diwrnod olaf yn Hove ddydd Mercher.
Fe wnaeth y diwrnod olaf ddechrau gyda Sussex ar sgôr o 111-4 yn eu hail fatiad - 122 rhediad ar y blaen i Forgannwg.
Ond gydag ail fatiad Morgannwg i ddod hefyd, gêm gyfartal oedd wastad yn edrych fwyaf tebygol.
Llwyddodd y tîm cartref i gyrraedd sgôr o 263-6 - gyda Ben Brown yn sgorio 100 heb fod allan - cyn dod â'u hail fatiad i ben toc cyn 15:00 - 274 rhediad ar y blaen i'r Cymry.
Eu nod oedd bowlio Morgannwg allan yn yr amser oedd yn weddill, ond fe lwyddodd yr ymwelwyr i aros yn gadarn, gan gyrraedd sgôr o 154-5 cyn i'r capteiniaid gytuno ar gêm gyfartal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2021