Pobl yn 'ddifrifol wael' yn yr ysbyty oherwydd tabledi ffug
- Cyhoeddwyd
Mae pryder fod tabledi gorbryder ffug wedi achosi i nifer o bobl yn ardal Abertawe orfod mynd i'r ysbyty'n ddifrifol wael.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod sawl achos yn adran frys Ysbyty Treforys ddydd Mercher ar ôl cymryd y tabledi.
Y gred yw eu bod yn cael eu gwerthu'n anghyfreithlon fel Valium neu Xanax yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Daw hyn yn dilyn pryderon gan arbenigwyr iechyd am y cynnydd yn nifer y tabledi ffug i helpu gyda gorbryder y maen nhw'n eu gweld.
'Pryder iechyd cyhoeddus cynyddol'
Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi cael gwybod gan y bwrdd iechyd am yr achosion o bobl yn yr ysbyty o ganlyniad i gymryd y tabledi, a'u bod bellach yn ymchwilio.
"Rydyn ni'n dilyn sawl trywydd yn ein hymchwiliad i weld pa gyffuriau gafodd eu cymryd ac o ble ddaethon nhw," meddai'r ditectif arolygydd Gareth Jones.
"Rydyn ni angen i unrhyw un sydd â gwybodaeth all ein helpu, gan gynnwys pobl o'r gymuned cymryd cyffuriau, i ddod ymlaen.
"Gallai gwybodaeth ar bwy sy'n gwerthu cyffuriau, a ble, fod o help i'n hymchwiliad yn ogystal ag achub bywydau."
Ychwanegodd y gallai pobl gysylltu'n ddienw i roi gwybodaeth neu gysylltu â Taclo'r Taclau os nad oedden nhw'n gyfforddus yn siarad â'r heddlu.
Yn y cyfamser mae adroddiad newydd gan WEDINOS, labordy profi cyffuriau Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi dweud bod "cynnydd sylweddol" yn nifer y tabledi presgripsiwn sy'n cael eu cyflwyno iddynt gan bobl sy'n poeni os ydyn nhw'n ddilys ai peidio.
Mae hynny'n awgrymu bod rhai unigolion yn osgoi mynd at eu meddyg teulu ac yn cael eu meddyginiaeth ar-lein.
Roedd dros hanner y tabledi a gafodd eu profi yn y labordy yn rai ffug, ac yn aml yn cynnwys cemegau cryfach sydd ddim yn cael eu rheoleiddio.
Bensodiasepinau, fel Diazepam a Xanax, oedd y grŵp o dabledi mwyaf cyffredin.
Dywedodd Josie Smith, pennaeth camddefnyddio sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod y mater eisoes yn bryder iechyd cyhoeddus cynyddol, ond ei fod yn debygol o fod wedi gwaethygu o ganlyniad i'r pandemig a'r cyfnodau clo.
"O ystyried y straen a'r pwysau y mae pobl wedi bod oddi tanynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, efallai eu bod wedi bod yn fwy tueddol o hunan-feddyginiaethu gyda meddyginiaethau sydd ddim wedi eu rhagnodi iddynt," meddai.
"Rydyn ni'n clywed yn fwy aml nawr gan unigolion sy'n dweud nad oedden nhw'n dymuno mynd at eu meddyg teulu i siarad am yr heriau roedden nhw'n eu profi, a'i chael hi'n haws mynd ar-lein."
Risg o sgileffeithiau
Ychwanegodd Ms Smith fod tystiolaeth anecdotaidd o gynnydd yn y defnydd o dabledi i helpu gyda gorbryder ac iselder yn ystod y pandemig, gyda nifer o bobl yn prynu'r tabledi hyn ar-lein.
Mae'r tabledi ffug yn aml yn cael eu gwneud o gynhwysion rhatach sydd heb eu rheoleiddio. Fe allen nhw fod hyd at 10 gwaith yn gryfach na'r hyn y mae pobl yn meddwl eu bod yn eu cymryd.
Mae nifer o'r tabledi ffug hefyd yn debyg iawn i dabledi fferyllol dilys - maent yn cael eu cynhyrchu mewn pecynnau blister gyda thaflenni gwybodaeth feddygol i gyd-fynd â nhw.
Ond mae'r rhai sy'n cymryd y tabledi hyn mewn perygl o brofi effeithiau cryfach a mwy parhaol, allai arwain at fod yn gaeth iddyn nhw, neu hyd yn oed orddos.
Dywedodd Ms Smith bod ystod oedran y rheiny sydd yn cyflwyno sampl i'r labordy yn enfawr.
"Roedd y person ieuengaf yn 14 oed, a'r hynaf yn 89 oed. Mae hyn ar draws y grwpiau oedran - nid mater person ifanc neu fater person hŷn yn unig yw hwn," meddai.
Allan o 320 o samplau a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ble roedd pobl yn credu eu bod wedi prynu Xanax, roedd 58% ohonynt yn cynnwys sylwedd gwahanol yn gyfan gwbl.
Allan o 712 o samplau Diazepam, roedd 55% yn rhywbeth arall, gyda llawer ohonynt yn cynnwys cemegau llawer cryfach sydd erioed wedi eu rheoleiddio ar gyfer defnydd meddygol.
Yn ogystal â chynnydd mewn gwerthiannau ar-lein, dywedodd rhai gwasanaethu cymorth cyffuriau eu bod wedi gweld cynnydd amlwg mewn "bensodiasepinau stryd", sy'n aml yn cael eu prynu a gwerthu ymhlith pobl â phroblemau dibyniaeth.
'Difetha bywydau pobl'
"Ar hyn o bryd mae'r strydoedd yn llawn o'r rhai ffug," meddai Kimberly Williams, sydd wedi defnyddio tabledi bensodiasepinau yn y gorffennol ond sydd bellach yn gwella gyda gwasanaeth trin cyffuriau ac alcohol Gwent.
"Rwy'n agos iawn at lawer o bobl sy'n cymryd y fersiynau anghyfreithlon a chyfreithlon. Mae gan lawer o bobl rwy'n 'nabod sy'n eu cymryd iechyd meddwl gwael.
"Mae'r rhain yn bobl sydd ddim yn mynd at eu meddyg teulu i gael eu meddyginiaeth, felly maen nhw'n chwilio am rywbeth i wneud iddyn nhw deimlo'n well.
"Maen nhw'n gymaint cryfach - rwy'n eu gweld yn difetha bywydau pobl yn gyflymach na chocên a heroin, ac mae hynny'n dweud lot."
Dywedodd Elwyn Thomas, gweithiwr allgymorth ar gyfer gwasanaeth cymorth cyffuriau Kaleidoscope yng Nghasnewydd, ei fod wedi sylwi ar newidiadau mawr yn y defnydd o bensodiasepinau ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gaeth.
"Mae'n debyg ein bod ni wedi cael 16 neu 17 o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau yn ystod tri mis cyntaf eleni a oedd yn ymwneud â bensodiasepinau ffug," meddai.
"Ar y strydoedd rydyn ni'n gweld anhrefn. Fel gweithiwr cyffuriau rheng flaen, rydw i wedi gweld y defnydd o bensodiasepinau yn newid dros yr 17 mis diwethaf.
"Yn hanesyddol, efallai y byddai pobl yn ein gwasanaeth wedi eu defnyddio ar gyfer pethau fel delio â gorbryder pe bydden nhw'n bobl sy'n cysgu ar y stryd ac yn methu â gweld meddyg teulu.
"Y gwahaniaeth nawr yw mathau a chryfder y bensodiasepinau sydd allan yna ar y stryd."
Dywedodd Simon Jones, pennaeth polisi Mind Cymru, ei bod yn destun pryder gweld pobl yn ceisio archebu meddyginiaethau ar-lein i helpu gyda phroblemau iechyd meddwl."Gall hyn fod yn beryglus iawn, gan nad oes unrhyw sicrwydd bod pobl yn gwybod yn union beth sydd yn y feddyginiaeth," meddai.
"Ein cyngor ni yw, os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n profi symptomau problem iechyd meddwl, fel gorbryder, mae'n bwysig gweld eich meddyg teulu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2020