Teyrnged teulu yn dilyn gwrthdrawiad Llangollen
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes ifanc a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yn ardal Llangollen wedi rhoi teyrnged iddi.
Roedd Abby Hill yn 19 oed ac o ardal Acrefair, Wrecsam.
Bu farw mewn ysbyty yn Stoke nos Lun yn dilyn y gwrthdrawiad yn ardal Berwyn yn hwyr nos Sadwrn, 3 Gorffennaf.
Roedd Ms Hill yn teithio mewn car Renault Clio. Cafodd gyrrwr 27 oed y cerbyd ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru yn fuan ar ôl y digwyddiad, a'i ryddhau'n ddiweddarach dan ymchwiliad.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Gwesty'r Chainbridge, ble roedd "yn gweithio'n galed fel gweinyddes", yn ôl ei theulu.
'Cannwyll ein llygaid'
Dywed eu teyrnged ei bod yn "caru" ei swydd ac "wedi cael effaith enfawr yno ar staff a chwsmeriaid".
Ychwanegodd y teulu: "Hi oedd cannwyll ein llygaid, ac roedd megis dechrau gwneud ei marc yn y byd fel merch gref ac annibynnol.
"Roedd ei phersonoliaeth yn amlygu ei hun ym mhopeth y gwna.
"Bydd ein cariad tuag ati wastad gyda ni a bydd hi wastad yn ein calonnau, gan adael effaith anferthol arnom fel teulu, a phawb arall a gafodd y cyfle i'w 'nabod."
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dal yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch y gwrthdrawiad, neu oedd yn Nhafarn y Bridge, Llangollen yn hwyr nos Sadwrn, 3 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021