Cwmni adeiladu WRW yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
wrwFfynhonnell y llun, Google

Mae cwmni adeiladu blaenllaw yn dweud bod "dim opsiwn ymarferol" ond mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, er gwaethaf archebion gwerth miliynau o bunnau.

Dywedodd cwmni WRW Construction, sydd â phencadlys yn Llanelli, eu bod wedi bod "dan straen ariannol sylweddol" yn yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl y cyfarwyddwyr mae'r cwmni wedi gweithio'n "ddiflino" i gadw'r busnes i fynd, ond mai galw'r gweinyddwyr yw'r "opsiwn gorau".

Mae Cyngor Sir Gâr "wedi cymryd camau ar unwaith" i ddiogelu dau safle datblygu mawr sydd ar waith ar hyn o bryd yn y sir.

Dywedodd llefarydd ar ran WRW bod y broses ar gychwyn "er gwaethaf llyfr archebion sylweddol gwerth dros £60m i'w cwblhau dros y 12 mis nesaf, benthyciwr cefnogol, staff a rhagolygon gwych".

Ond ychwanegodd bod y busnes wedi dod dan bwysau "oherwydd cyfres o ddigwyddiadau yn yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys canlyniad dyfarniad anffafriol".

'Trefniadau wrth gefn' yn Sir Gâr

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole: "Mae hyn yn newyddion anffodus a fydd yn sicr o effeithio ar weithwyr ac is-gontractwyr lleol.

"Mae WRW Construction wedi gweithio gyda ni i ddatblygu sawl cynllun mawr dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys ysgolion a chartrefi, ac rydym yn flin o glywed am ei gwymp.

"Ein ffocws ar unwaith oedd mynd ati i ddiogelu dau safle datblygu mawr sydd ar waith ar hyn o bryd - Prosiect Denu Pentywyn a chynllun tai fforddiadwy yn Dylan, Llanelli.

"Ar hyn o bryd rydym yn casglu gwybodaeth ac yn darparu cymorth ymarferol i gynorthwyo is-gontractwyr sy'n ymwneud â'r gwaith ar y ddau safle hyn."

Ychwanegodd: "Fel gyda phob prosiect mawr, mae trefniadau wrth gefn ar waith.

"Felly, rydym yn hyderus y gallwn ailafael yn y gwaith i barhau i gyflawni'r ddau brosiect mawr hyn yn y dyfodol agos, er y bydd hyn yn anochel yn arwain at rywfaint o oedi a chostau ychwanegol, y bydd angen eu hasesu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys y cwmni yn Llanelli

Roedd WRW hefyd wedi bod yn gweithio ar ran cymdeithas dai Linc Cymru ar safleoedd yn Malvern Drive, Llanisien, yng Nghaerdydd a datblygiad tai a gofal iechyd Sunnyside Wellness Village ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd llefarydd ar ran Linc Cymru: "Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi cryn anghyfleustra a gofid, yn arbennig i'r bobl sydd ar fin symud i Malvern Drive."

Mae gan y cwmni swyddfeydd hefyd yng Nghaerdydd a Bryste.

Mae neges ar wefan y cwmni'n datgan nad ydyn nhw ar gael ar hyn o bryd gan argymell i bobl ailymweld â'r dudalen "mewn ychydig ddyddiau".

Pynciau cysylltiedig