Cyngres Europa: Y Drenewydd 0-1 Dundalk
- Cyhoeddwyd
Mae'r Drenewydd allan o gystadleuaeth newydd Ewrop ar ôl colli o 5-0 dros ddwy gêm i Dundalk.
Roedd y golled yn un fwy parchus i'r Robiniaid nos Fawrth, wrth iddyn nhw golli o 1-0 yn erbyn y Gwyddelod yn Neuadd y Parc, Croesoswallt.
Yr wythnos diwethaf, fe gollodd y Drenewydd o 4-0 oddi cartref yn y gyntaf o ddwy gêm yn y rownd ragbrofol agoriadol.
Michael Duffy, un o sêr amlwg y gwrthwynebwyr, sgoriodd unig gôl y gêm nos Fawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2021