Canlyniadau cymysg i dimau Cymru yng Nghyngres Europa

  • Cyhoeddwyd
DrenewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Y Drenewydd gêm galed yn Dundalk gan golli o 4-0

Roedd hi'n noson gymysg i dimau Cymru yn rownd ragbrofol gyntaf cynghrair newydd Cyngres Europa nos Iau, gyda dwy golled ac un gêm gyfartal.

Colli'n drwm o 4-0 oedd hanes Y Drenewydd wrth iddyn nhw deithio i Weriniaeth Iwerddon i herio Dundalk.

Mae goliau Michael Duffy, David McMillan, William Patching a Jeong-uh Han yn golygu y bydd angen gwyrth ar y Robiniaid i gyrraedd yr ail rownd ragbrofol.

Ond roedd hi'n noson llawer gwell i'r Seintiau Newydd, lwyddodd i sicrhau gêm gyfartal gyda Glentoran yng Ngogledd Iwerddon.

Leo Smith sgoriodd i'r Seintiau cyn i Jamie McDonagh unioni'r sgôr gyda 10 munud yn weddill, gan olygu y bydd y ddau dîm yn ddigon gobeithiol cyn yr ail gymal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm yn erbyn Y Bala oedd y tro cyntaf erioed i Larne chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd

Ond colli oedd hanes Y Bala yn erbyn Larne, hefyd o Ogledd Iwerddon, yn yr un gystadleuaeth.

David McDaid sgoriodd unig gôl y gêm, gan sicrhau y bydd gan y Cymry dalcen caled i gyrraedd y rownd nesaf.

Bydd ail gymalau'r tair gêm yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf.

Pynciau cysylltiedig