Salter yn serennu i Forgannwg yn erbyn Northants
- Cyhoeddwyd
![Andrew Salter](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E890/production/_119363595_cdf_120721_cf_glamorgan_v_northants_007.jpg)
Cafodd Andrew Salter ffigyrau gorau ei yrfa hyd yma - pedair wiced am 18 rhediad
Mae'r gêm rhwng Morgannwg a Sir Northampton yn parhau'n hafal iawn yng Nghaerdydd, wedi i'r glaw atal y chwarae eto am gyfnod helaeth o'r ail ddiwrnod.
Gyda'r ymwelwyr wedi dechrau'r ail ddiwrnod ar sgôr o 128-4, llwyddodd Morgannwg i'w cael allan am 215.
I'r troellwr Andrew Salter oedd y diolch am hynny wrth iddo gymryd pedair wiced am 18 rhediad yn unig - ffigyrau gorau ei yrfa hyd yma.
Yn eu batiad cyntaf nhw fe wnaeth Morgannwg gyrraedd sgôr o 52-2 cyn i'r glaw atal y chwarae am tua 16:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2021