Batwyr Morgannwg yn cymryd rheolaeth yn erbyn Northants

  • Cyhoeddwyd
Kiran CarlsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Kiran Carlson i orffen y dydd ar sgôr o 170 heb fod allan

Mae batwyr Morgannwg wedi cymryd rheolaeth o'r gêm yn erbyn Sir Northampton yng Nghaerdydd wedi trydydd diwrnod gwych i'r Cymry.

Gyda Morgannwg yn dechrau'r trydydd diwrnod ar sgôr o 52-2 yn ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Northants o 215, ni chafodd y tîm cartref unrhyw drafferth yn sgorio rhediadau.

Llwyddon nhw i gyrraedd cyfanswm o 462-4 , gyda Kiran Carlson (170 heb fod allan), Chris Cooke (133 heb fod allan) a Marnus Labuschagne (77) yn serennu.

Mae hynny'n golygu y bydd Morgannwg yn dechrau'r diwrnod olaf 247 rhediad ar y blaen, gyda chwe wiced yn weddill.

Pynciau cysylltiedig