Dyn ar goll: 'Ni mo'yn gwbod os yw e yn ddiogel'

  • Cyhoeddwyd
AndrewFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Andrew Davies ei weld ddiwethaf ar ddydd Sul, 4 Gorffennaf

Dywed teulu dyn o Lanelli sydd wedi bod ar goll am dros wythnos eu bod "mewn sioc", gan apelio am wybodaeth amdano.

Cafodd Andrew Davies, 57, ei weld ddiwethaf ar ddydd Sul 4 Gorffennaf.

Dywedodd aelod o'i deulu, Rebecca Thomas: "Ry ni gyd mewn sioc a wir mo'yn gwybod ble mae e.

"Ni mo'yn gwybod os yw e yn ddiogel. Ni mo'yn e gartref"

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau camera cylch cyfyng o Mr Davies yn cerdded ger Parc Dŵr Sandy, Llanelli tua 19:20 ar y diwrnod aeth ar goll.

Maen nhw'n galw ar bobl leol i edrych yn eu siediau neu garejis amdano.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau camera cylch cyfyng o Mr Davies

Pan ddiflannodd roedd Mr Davies, sy'n chwe throedfedd o daldra, yn gwisgo crys-T llwyd, jîns glas a 'sgidiau cerdded.

Mae ganddo wallt llwyd a barf llwyd a du.

Mewn neges yn apelio am wybodaeth, dywedodd ei ferch Adrianne Davies ar WhatsApp: "Mae fy nhad wedi bod ar goll o Lanelli am wythnos nawr.

"Mae fel bod ef wedi diflannu o wyneb y ddaear ar ôl mynd rownd dwy gornel o'i fflat yng nghanol y dre'.

"Fe aeth am dro heb got, waled na ffôn. Ond dyw hynny ddim yn anarferol iddo gan ei fod yn hoffi awr fach i'w hunan.

"Ond mae peidio dod gartref yn gwbl groes i'w gymeriad."

Pynciau cysylltiedig