Gig y Pafiliwn i ddathlu 10 mlynedd o label recordio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pontio BangorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r digwyddiad yn Pontio yn rhan o Eisteddfod AmGen - gŵyl rithiol sy'n cymryd lle'r Genedlaethol

Bydd Gig y Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd ar ffurf ychydig yn wahanol eleni.

I ddathlu degawd ers sefydlu label I Ka Ching, bydd rhai o brif fandiau ac artistiaid y label yn perfformio gyda Cherddorfa'r Welsh Pops.

Y DJ Huw Stephens fydd yn cyflwyno'r noson yng Nghanolfan Pontio, Prifysgol Bangor ar nos Iau, 5 Awst am 21:00.

Yr artistiaid sy'n perfformio gyda'r gerddorfa ydy Blodau Papur, Candelas, Clwb Cariadon, Glain Rhys, Griff Lynch, Mared, Siddi, Sŵnami, Y Cledrau ac Yr Eira.

Mae'r digwyddiad yn rhan o Eisteddfod AmGen - gŵyl rithiol sy'n cymryd lle'r Genedlaethol am yr ail waith eleni yn sgil y pandemig.

Ffynhonnell y llun, I KA CHING
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mared ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio ar nos Iau, 5 Awst

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd trefnwyr y Brifwyl fod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi'i gohirio am yr eildro.

Y bwriad nawr ydy cynnal y Steddfod yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2023 ac Eisteddfod Rhondda Cynon Taf i 2024.

'Dathliad a hanner'

Dywedodd Branwen Williams o I Ka Ching fod y criw "ar ben ein digon i gael dathlu ein pen-blwydd yn 10 oed mewn gig mor uchelgeisiol â hyn".

"Ry'n ni i gyd yn gwybod pa mor eiconig fu gigs y Pafiliwn yn y gorffennol, ac mae cael curadu un yn arbennig i artistiaid I Ka Ching yn sicr yn teimlo fel dathliad a hanner," meddai.

Er mai rhithiol fydd y gig eleni, bydd yn cael hefyd yn cael ei ffrydio i bedair canolfan ar draws Cymru.

Mae tocynnau i wylio'r gig yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Canolfan Pontio, Neuadd Ogwen, Bethesda, a Chanolfan Chapter, Caerdydd wedi mynd ar werth fore Llun.

Bydd y gig hefyd yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru am 21:00 ar y noson.

Mae Eisteddfod AmGen 2021 yn cael ei chynnal ar-lein rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst.