'Bygythiad i hyfywedd' rhai ardaloedd arfordirol

  • Cyhoeddwyd
caffi

Bydd hi'n mynd yn anos "os nad yn amhosib" i sicrhau yswiriant neu forgais mewn rhai lleoliadau ar arfordir Cymru yn y dyfodol.

Dyna'r rhybudd gan arbenigwyr yn y maes sy'n galw am "sgwrs genedlaethol" ynglŷn â goblygiadau newid hinsawdd.

Erbyn diwedd y ganrif fe allai degau ar filoedd o gartrefi glan môr gael eu heffeithio gan lifogydd neu erydiad.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae 'na drafodaethau'n digwydd eisoes gyda rhai cymunedau.

Ychydig wythnosau cyn i dirlithriad enfawr yn Nefyn hawlio sylw rhyngwladol, roedd Geraint Jones wedi penderfynu agor caffi gerllaw.

Roedd gweld rhannau o erddi'r tai uwchben y traeth wedi disgyn i'r môr yn achos "dychryn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nefyn yn un ardal sydd wedi dioddef tirlithriad

Ers hynny mae wedi trafod â'i gwmni yswiriant ac yn teimlo'n ffodus bod y caffi wedi'i leoli uwchben wal sy'n amddiffyn rhag y môr.

"Ry'n ni'n gobeithio bod 'na rywun am edrych ar ein holau ni yn fan hyn," meddai.

"Mae'n rhaid i chi gymryd rywfaint o lwc gyda busnes hefyd ond mae'n sobor o beth (i'r sawl a ddioddefodd)."

Dweud bod angen rhagor o sylw i sicrhau bod perchnogion tir ac eiddo ar hyd yr arfordir yn ymwybodol o heriau newid hinsawdd dros y degawdau nesa mae Dr David Clubb, sefydlydd cwmni ymgynghori amgylcheddol Afallen.

Mae 'na oblygiadau "hyd yn oed i'r sawl sy'n byw ar dop bryn ym Mhowys", meddai.

"Os ydy Lerpwl, neu Gaerdydd neu Casnewydd yn cael llifogydd yna ble fydd y bobl yna'n mynd?"

"Dwi'n credu mae 'na gyfle i gael y neges allan, cael sgwrs genedlaethol ynglŷn â be mae Cymru yn mynd i edrych fel yn y dyfodol?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Jones yn credu mai dyma'r amser am sgwrs genedlaethol am y broblem

Cyfeiriodd at fapiau rhyngwladol sydd wedi'u cynhyrchu gan ymchwilwyr Climate Central, dolen allanol o'r Unol Daleithiau, sy'n rhagweld y bydd rhannau o Gymru'n dioddef llifogydd o'r môr yn flynyddol erbyn 2050.

Yn ddiweddar fe wnaeth y corff sy'n cynghori llywodraethau'r Deyrnas Unedig ar newid hinsawdd hefyd rybuddio bod 'na ardaloedd o arfordir y gorllewin yn wynebu "bygythiad i'w hyfywedd", dolen allanol oherwydd cynnydd yn lefel y môr a thywydd mwy eithafol.

Mae dros 10,000 o adeiladau yng Nghymru mewn perygl o ddiodde' llifogydd arfordirol ar hyn o bryd, gyda'r corff yn rhagweld y gallai hynny gynyddu 260% erbyn y 2080au.

Ac mae 2126 eiddo wedi'u bygwth gan erydiad arfordirol os nad yw amddiffynfeydd presennol yn cael eu cynnal.

"Mae 'na oblygiadau, sicr ddigon, i'r priswyr hynny sy'n mynd allan i brisio eiddo," eglurodd Owain Llywelyn o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yng Nghymru wrth Newyddion S4C.

"Mae'r banciau hefyd yn mabwysiadu polisi o asesu risg ac un o'r ffyrdd y maen nhw'n mynegi hynny yw drwy ddweud reit 'da ni mynd i gael blaendal o 30% falle hyd yn oed 60% neu wrth gwrs dim morgais o gwbl.

"Yn sicr fe fydd hi'n loteri cod post mewn rhai llefydd".

Mae Malcolm Tarling o Sefydliad Yswirwyr Prydain yn cytuno bod newid hinsawdd yn "ffactor sylweddol i bob yswiriwr erbyn hyn".

"Mae un ym mhob wyth eiddo drwy Gymru o bosib yn mynd i gael llifogydd ac mae'r bygythiad hynny ond yn mynd i waethygu," meddai.

Yn ddiweddar fe wnaeth y diwydiant gyhoeddi cynllun gweithredu ar newid hinsawdd, er mwyn gwneud mwy i ariannu'r gwaith o leihau allyriadau tŷ gwydr ac annog cwsmeriaid i wneud dewisiadau cynaliadwy fel derbyn car trydan neu foilar gwyrdd wrth wneud cais am daliad yswiriant.

Ond mae'n "realiti trist" meddai na all y diwydiant helpu pobl sy'n wynebu erydiad arfordirol am fod hynny'n "risg sy'n gallu cael ei ragweld ac sy'n digwydd yn raddol dros amser".

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi bod yn gweithio ers sawl blwyddyn bellach gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau lliniaru ar gyfer ardaloedd lle mae effeithiau newid hinsawdd yn destun pryder.

Mae modd i bobl weld y risg llifogydd tymor hir o ran eu hardal neu stryd ar-lein hefyd, dolen allanol.

Hanes a threftadaeth

Yn ôl Sian Williams, pennaeth gweithrediadau'r corff yn y gogledd orllewin mae'n bwysig trin y pwnc yn ofalus a pheidio codi ofn ar bobl.

Ond mae'r trafodaethau wedi dechrau mewn rhai cymunedau megis Fairbourne yng Ngwynedd, meddai, gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus - gafodd eu sefydlu i wella cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus - yn arwain y ffordd.

"Yn amlwg fe allwn ni sbïo ar fapiau, sbïo ar wybodaeth, sbïo ar ddata sy gennym ni ond mae profiad pobl am be sy'n wynebu nhw yn y dyfodol yn andros o bwysig - yn rhan o'r sgwrs yna hefyd.

"Felly dyna fydd y cam nesa i ni wrth symud ymlaen sef mynd i siarad gyda chymunedau, a gweld yn union be ma' nhw'n teimlo, be ma' nhw'n boeni amdano - a gwrando ar eu syniadau nhw am y dyfodol.

"Da ni ddim yn unig yn sôn am dai ac eiddo fan hyn ond 'dan ni'n sôn am dreftadaeth a hanes pobl sy'n byw yn yr ardaloedd rheini hefyd."

Pynciau cysylltiedig