Sioe Frenhinol yn 'obeithiol' am £500,000 o gymhorthdal
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd y Sioe Frenhinol yn obeithiol y bydd cais y gymdeithas am gefnogaeth ariannol o £500,000 gan Lywodraeth Cymru yn llwyddiannus.
Yn ôl cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, John Davies mae'n edrych yn addawol hefyd y bydd modd cynnal Ffair Aeaf ar ddiwedd y flwyddyn wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio.
Fe fydd Cymdeithas y Sioe yn cynnal digwyddiad o dan reolau caeth i geffylau ym mis Medi.
Sioe Frenhinol rithiol fydd yn cael ei chynnal eleni am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd effeithiau'r pandemig.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd Mr Davies ei fod yn obeithiol y bydd y cais i'r gronfa adferiad diwylliannol yn llwyddiannus.
Mae'r Sioe Frenhinol eisoes wedi cael cymhorthdal o £700,000.
"Ni'n dra gobeithiol," meddai Mr Davies.
"Gobeithio y bydd ein llywodraeth ni yn cefnogi ni i wneud yn sicr fod gyda'r gymdeithas ddyfodol ers lles y genhedlaeth nesaf sydd yn mwynhau a chael y fendith o fod yn ein digwyddiadau ni o flwyddyn i flwyddyn."
Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn obeithiol hefyd y bydd modd cynnal Ffair Aeaf ar ddiwedd y flwyddyn.
"Ry'n ni am weld ein bod ni yn medru rhoi Ffair Aeaf ymlaen eleni yn ei chyfanrwydd, a mwy os yn bosib - rhyw fath o ddigwyddiad yn dathlu pobl yn dod 'nôl i ryw fath o drefn arferol," meddai.
Mae'r Sioe Frenhinol fel arfer yn croesawu 250,000 i Lanelwedd bob blwyddyn dros gyfnod o bedwar diwrnod.
"Ni wir yn gobeithio y bydd Sioe y flwyddyn nesaf yn enw'r sir nawdd, Clwyd," meddai Mr Davies.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020