Hampshire yn trechu Morgannwg yn y T20 yn Southampton

  • Cyhoeddwyd
Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd sgôr o 78 gan Marnus Labuschagne ddim yn ddigon i Forgannwg yn Southampton

Fe ddaeth tymor T20 Morgannwg i ben ddydd Sul gyda cholled arall, y tro hwn yn erbyn Hampshire yn Southampton.

Fe wnaeth Morgannwg gyrraedd cyfanswm o 184-4 yn eu 20 pelawd nhw, gyda Marnus Labuschagne (78) a David Lloyd (52) yn serennu.

Ond fe ddechreuodd Hampshire ar dân yn eu batiad nhw ac fe lwyddon nhw i basio cyfanswm yr ymwelwyr yn hawdd, gyda saith pelawd a chwe wiced yn weddill.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn disgyn i waelod eu tabl yn y T20 ar ôl ennill tair o'u 14 gêm yn y gystadleuaeth y tymor hwn.

Pynciau cysylltiedig