Heddlu Dyfed Powys wedi darganfod corff dyn

  • Cyhoeddwyd
Andrew DaviesFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae Heddlu Dyfed Powys oedd yn ymchwilio i ddiflaniad Andrew Davies yn Llanelli wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ddarganfod nos Wener.

Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol ond mae perthnasau agosaf Mr Davies wedi cael eu hysbysu.

Cafodd y dyn 57 oed ei weld ddiwethaf dros bythefnos yn ôl ar ddydd Sul, 4 Gorffennaf yn Llanelli.

Dywedodd ei ferch Adrianne Davies wythnos diwethaf nad oedd yn anarferol i'w thad fynd am dro ar ben ei hun, ond bod iddo beidio dod gartref yn "gwbl groes i'w gymeriad".

Pynciau cysylltiedig