Arestio dau yn dilyn ymosodiad ym Mharc Bute
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau berson mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol ym Mharc Bute, Caerdydd yn gynnar ddydd Mawrth.
Cafodd dyn 25 oed o ardal Glan-yr-afon ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae menyw 18 oed o Lanrhymni wedi ei harestio ar amheuaeth o anafu bwriadol a lladrata.
Mae dyn 54 oed o Dre-biwt yn parhau ag anafiadau all beryglu ei fywyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae'r ddau sydd wedi eu harestio yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd ar hyn o bryd, ac mae'r heddlu'n dweud y bydd mwy o swyddogion ar ddyletswydd yn ardal y parc er mwyn tawelu ofnau trigolion.
"Rydym yn deall bod y digwyddiad yma wedi achosi pryder i'r gymuned leol," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea.
"Hoffwn roi sicrwydd i bobl er bod hwn, yn ddiamau, yn ddigwyddiad difrifol a phryderus, mae'n cael ei drin fel digwyddiad neilltuol.
"Rydym wedi gwneud cynnydd da gyda'r ymchwiliad ac wedi arestio dau o bobl hyd yn hyn, a bydd ein hymholiadau'n parhau nes inni ganfod pawb oedd yn gyfrifol a'u dwyn o flaen llys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021