Gwylwyr y glannau 'wedi'u sarhau' wrth geisio achub pobl
- Cyhoeddwyd
Mae gwylwyr y glannau yn ardal Llandudno yn dweud bod pobl wedi bod yn eu sarhau nhw wrth iddyn nhw geisio eu hachub rhag y llanw.
Yn ystod penwythnos "hynod o brysur", bu'n rhaid i wylwyr y glannau Pen Morfa a thîm achub Conwy hefyd fynd i gynorthwyo dau berson oedd wedi cael eu tynnu allan i'r môr.
Dros y dyddiau diwethaf mae nifer o swyddogion gwirfoddol wedi bod ar ddyletswydd ar Draeth Pen Morfa i rybuddio pobl am y peryglon.
Mae'r traeth yn un ble mae darn mawr o dywod yn ymestyn allan pan mae'r llanw'n isel, ond wrth iddo godi eto mae perygl o gael eich gadael ar y banciau tywod.
'Eiliadau cyn y llanw'
Ddydd Sul mae'r gwirfoddolwyr yn dweud iddyn nhw orfod atal tua 100 o bobl rhag cael eu gadael ar ôl wrth i'r dŵr lenwi sianel rhwng y traeth a banc tywod.
Dywedodd neges ar dudalen Facebook Gwylwyr y Glannau Llandudno fod pob swyddog achub "wedi cerdded tua tair milltir mewn gwisg PPE lawn yn y gwres llethol er mwyn helpu pobl oddi ar y banciau tywod".
"Doedd y rhan fwyaf o bobl ddim yn ymwybodol o'r peryglon ac yn hapus i gymryd ein cyngor, ond fe gawson ni hefyd ein sarhau gan nifer fechan o bobl," meddai.
"Fe wnaeth aelod olaf y tîm lwyddo i ddod oddi ar y banc eiliadau yn unig cyn i'r llanw eu torri i ffwrdd.
"Dydy ni ddim yn gwneud hyn am hwyl, rydyn ni yma i'ch cadw chi'n saff, felly gwrandewch ar gyngor y swyddogion achub os ydyn nhw'n dod atoch."
Ychwanegodd y neges na ddylai pobl geisio achub eu hunain os ydyn nhw'n mynd yn sownd, ond yn hytrach ffonio Gwylwyr y Glannau i ddod i'w hachub.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2021