Harry Wilson yn symud o Lerpwl i Fulham am £12m
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr Cymru, Harry Wilson wedi arwyddo i Fulham o Lerpwl am ffi o tua £12m.
Roedd Wilson, 24, yn rhan o garfan Cymru yn Euro 2020 ac mae ganddo bum gôl mewn 29 o gapiau dros ei wlad.
Mae wedi arwyddo cytundeb gyda Fulham tan 2026, a hynny wedi i'r clwb ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr yn ôl i'r Bencampwriaeth eleni.
"Roedd uchelgais y clwb i fynd yn ôl i'r Uwch Gynghrair yn apelio i mi achos dyna lle dwi eisiau bod," meddai.
Roedd y gŵr o Gorwen wedi bod ar lyfrau Lerpwl ers yn ifanc, ond dim ond wedi chwarae dwy gêm gwpan dros y clwb.
Yn yr amser hwnnw fe dreuliodd gyfnodau ar fenthyg gyda Crewe Alexandra, Hull City, Derby County a Bournemouth, a'r tymor diwethaf fe chwaraeodd 38 o weithiau dros Gaerdydd.
Wilson yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i gynrychioli Cymru, pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn 16 oed mewn gêm ragbrofol yn erbyn Gwlad Belg yn 2013.
Daeth ymlaen fel eilydd deirgwaith yn ystod yr Ewros eleni, ond fe orffennodd ei dwrnament ar nodyn isel pan gafodd gerdyn coch yn y golled i Ddenmarc yn rownd yr 16 olaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021