Gwlad Belg 1 - 1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Ramsey sgoriodd i sicrhau pwynt i Gymru yn eu gêm olaf

Mae Cymru wedi llwyddo i gael gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel, yn gêm olaf eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014.

Kevin de Bruyne sgoriodd gôl gyntaf y gêm wedi 63 munud, yn cymryd mantais o flerwch yn amddiffyn Cymru gydag ergyd wych i gornel pellaf gôl Wayne Hennessey.

Er i Gymru chwarae yn ddigon taclus ar adegau roedd rhagoriaeth y Belgiaid yn amlwg a doedd hi ddim yn edrych fel bod ganddynt unrhyw siawns o ddod yn ôl.

Fe wnaeth Hennessey yn enwedig chwarae'n dda iawn wrth iddo gamu i'r adwy gyda nifer o arbedion pwysig.

Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd gêm olaf Craig Bellamy mewn crys Cymru, tra bod Harry Wilson wedi ennill ei gap cyntaf yn 16 mlwydd a 207 diwrnod o oed

Ond pan roedd hi'n edrych bod y gêm drosodd, tarodd Gymru nôl wrth i Craig Bellamy roi pas glyfar i Aaron Ramsey wnaeth orffen yn daclus iawn er mwyn sicrhau bod y pwyntiau'n cael eu rhannu.

Mae'r canlyniad yn golygu mai Cymru yw un o'r unig ddau dîm i wadu Gwlad Belg rhag cymryd y tri phwynt yn ystod yr ymgyrch - ac fe fydd y Belgiaid ymysg y ffefrynnau yn Rio flwyddyn nesaf.

Mae hefyd yn golygu bod Craig Bellamy yn gorffen ei yrfa ryngwladol - fel chwaraewr rhyngwladol o leiaf - ar nodyn uchel, gan nad oedd disgwyl i Gymru fedru dygymod a'r Belgiaid.

Waeth beth fyddai canlyniad y gêm wedi bod ni fyddai wedi gwneud gwahaniaeth o ran Rio 2014, gan fod Gwlad Belg eisoes wedi cyrraedd y rowndiau terfynol a Chymru heb, ac roedd hynny'n cael ei adlewyrch yn y chwarae.

Roedd teimlad diwedd y tymor i'r gêm am gyfnodau gyda'r Belgiaid yn gwneud eu gorau i geisio plesio'r cefnogwyr cartref - ond heb anafu eu hunain.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru wedi gorffen yn bumed yn y grŵp, gyda Macedonia yr unig dîm oddi tanynt, yr Alban un safle uwch eu pennau a Gwlad Belg yn gyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Kevin de Bruyne, sy'n chwarae i Chelsea, sgoriodd gôl y Belgiaid

Gydag ansicrwydd yn amgylchynu dyfodol y rheolwr Chris Coleman, ni fydd y canlyniad hwn yn gwneud unrhyw ddrwg i'w sefylliad o fewn y garfan nac ymysg y cefnogwyr.

Ond dyw hi dal ddim yn sicr os byddai Coleman yn fodlon arwain Cymru am dymor arall, hyd yn oed gyda cefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Rowndau rhagbrofol Ewro 2016 fydd gemau cystadleuol nesaf Cymru a bydd pwy bynnag fydd wrth y llyw bryd hynny byddai'n gorfod bod yn anlwcus iawn i weld cynifer o chwaraewyr yn tynnu allan o gemau gydag anafiadau a wnaeth yn ystod yr ymgyrch hon.