Cymru allan o Euro 2020 wedi cweir gan Ddenmarc

  • Cyhoeddwyd
siomFfynhonnell y llun, Christopher Lee - UEFA

Mae Cymru allan o bencampwriaeth Euro 2020 ar ôl colli'n drwm o 4-0 i Ddenmarc yn Arena Johan Cruijff, Amsterdam.

Y gwrthwynebwyr - y ffefrynnau cyn y gic gyntaf - sy'n mynd trwodd i rownd yr wyth olaf yn Baku.

Cymru gafodd y dechrau gorau i'r gêm ond ni ddaethon nhw'n agos at sgorio ac unwaith y rhwydodd Denmarc fe aeth y gwrthwynebwyr o nerth i nerth.

Cafodd Harry Wilson ei hel o'r maes tua'r diwedd am dacl hwyr hefyd, wrth i'r Gymry golli eu pennau.

Dychwelodd Chris Mepham, Ben Davies a Kieffer Moore i'r 11 cyntaf, gan olygu bod y tîm yr un fath â'r 11 wnaeth ddechrau yn erbyn Y Swistir a Thwrci.

Cafodd y ddwy ochr ddechrau addawol gyda phasio slic gan Gymru o fewn munudau, er roedd angen tacl gan Chris Mepham i atal rhediad i lawr yr asgell dde gan Martin Braithwaite.

Gan Ddenmarc roedd ergyd gyntaf yr ornest ond yn ffodus i dîm Robert Page fe aeth ymdrech Kasper Dolberg ymhell heibio'r postyn a thros y trawst.

Ffynhonnell y llun, PIROSCHKA VAN DE WOUW

Methodd Dan James â chysylltu â phàs Joe Allen mewn symudiad oedd wedi creu digon o ofod i Gymru yn hanner Denmarc.

Roedd yna rediad wedyn gan James a greuodd gyfle i Gareth Bale ergydio gyda'i droed chwith ond roedd y bêl, o fymryn, ochr anghywir y postyn.

Bu'n rhaid arbed ergyd o bell gan James mewn cyfnod lle roedd Cymru'n cael y gorau o'r chwarae.

Ond yna fe gafodd Denmarc dair gic cornel ar ôl ei gilydd ac wrth iddyn nhw ddechrau cynyddu'r pwysau roedd yn fantol yn ymddangos yn troi o'u plaid.

Cafodd Joe Rodon gerdyn melyn wedi 25 o funudau am ei drosedd gyntaf un drwy'r gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kasper Dolberg yn sgorio'i gôl gyntaf o 20 llath

Funud yn ddiweddarach roedd Denmarc ar y blaen. Cysylltodd Kasper Dolberg, oedd ond yn yr 11 cychwynnol yn sgil anaf i Yussuf Poulsen, a phàs clyfar gan Mikkel Damsgaard a sgorio o du hwnt i'r cwrt cosbi gyda chwip o ergyd.

Gofynnodd y dyfarnwr am farn y dechnoleg VAR, a gadarnhaodd bod y gôl yn sefyll.

Wrth i hyder y gwrthwynebwyr godi, roedd chwaraewyr Cymru'n ymddangos ar ar chwâl wrth geisio osgoi ildio ail gôl cyn yr egwyl.

Ergyd arall oedd colli Connor Roberts, a fu'n rhaid gadael y maes wedi anaf wrth redeg am y bêl wedi 37 o funudau.

Neco Williams ddaeth i'r maes yn ei le maes o law, ond erbyn hynny roedd Kieffer Moore wedi cael cerdyn melyn. Cysylltodd ei ben-elin yn anfwriadol â wyneb capten Denmarc wrth iddo neidio am y bêl.

Collodd Cymru eu siâp yn llwyr, ac roedd yn amhosib cael y bêl yn agos at Moore, Bale nag Aaron Ramsey.

Ond fe wnaethon nhw rywsut lwyddo i wrthsefyll y pwysau tan ddiwedd yr hanner, er roedd angen arbediad da hwyr o agos gan Danny Ward i atal Dolberg rhag dyblu'r fantais.

Roedd yn amlwg bod her o'u blaenau wedi'r egwyl, ond yn anffodus fe aeth pethau o ddrwg i waeth yn gynnar iawn yn yr ail hanner.

Dechreuodd symudiad Denmarc wedi'r hyn roedd Cymru'n credu oedd yn drosedd yn erbyn Kieffer Moore yn hanner Sweden.

Rasiodd eu chwaraewyr i lawr y cae gan groesi o'r dde i'r chwith tua'r postyn pellaf. Wrth geisio clirio, fe darodd Neco Williams y bêl yn ôl i'r dde ar draws canol y cwrt cosbi ac fe syrthiodd y bêl yn daclus i Dolberg rwydo am yr eildro.

Ffynhonnell y llun, Olaf Kraak - Pool
Disgrifiad o’r llun,

Kasper Dolberg yn dathlu sgorio'i ail gôl

Roedd Cymru ddwy gôl ar ei hôl hi wedi 48 o funudau.

Cafodd Cymru ambell gyfle, gan gynnwys ergyd gan James a pheniad gan Bale, ond roedd Denmarc yn edrych yn gyfforddus ac doedd dim llawer o waith i'w golwr Kasper Schmeichel.

Daeth Harry Wilson i'r maes yn lle Joe Morrell, cyn i foli nerthol gan Allen, o dafliad hir gan Bale, dros y trawst.

Bu ond y dim i Mathias Jensen estyn mantais Denmarc gyda chroesiad a gyffyrddodd ochr y postyn ac a fyddai wedi curo Danny Ward.

Roedd Ben Davies a Pierre-Emile Hojbjerg angen triniaeth wedi tacl gref gan y Cymro.

Cafodd Kasper Dolberg ei eilyddio, gan adael y maes i gyfeiliant bonllefau o werthfawrogiad gan gefnogwyr Denmarc, a daeth chwaraewr Caerdydd, Andreas Cornelius, i'r maes yn ei le.

Cafodd rhediad a chroesiad gan Bale ei atal, ac erbyn chwarter awr olaf y gêm roedd chwaraewyr Cymru'n edrych yn gynyddol flinedig.

Daeth Tyler Roberts i'r maes yn lle Moore a David Brooks yn lle James, ond parhau wnaeth problemau Cymru.

Ffynhonnell y llun, KENZO TRIBOUILLARD
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Denmarc o nerth i nerth gyda phob gôl

Daeth Denmarc yn agos at sgorio ddwywaith o fewn eiliadau - tarodd Martin Braithwaite y postyn cyn i ergyd Joachim Andersen fynd heibio.

Dwy funud yn unig wedi hynny, roedd pencampwriaeth Cymru ar ben pan darodd Joakim Maehle y bêl i'r rhwyd.

Arweiniodd rhwystredigaeth Cymru at eiliadau o ddiffyg disgyblaeth a welodd cerdyn coch i Harry Wilson a cherdyn melyn i Bale am wawdio'r dyfarnwr.

Halen yn y briw oedd pedwerydd gôl Denmarc gan Martin Braithwaite yn ystod amser ychwanegol wedi 90 munud.

Roedd Braithwaite yn ymddangos fel petai'n camsefyll, ond gafodd y gôl ei chadarnhau wedi ymgynghoriad VAR.