'Y Llewod wedi dangos eu dannedd yn Cape Town'
- Cyhoeddwyd
Dwywaith yn unig mae'r Llewod wedi taro'n ôl i ennill cyfres ar ôl colli'r prawf cyntaf - yn 1899 ac 1989.
Mae hynny'n dangos yn glir felly nad oes modd gorbwysleisio pa mor bwysig oedd cipio'r prawf cyntaf y Sadwrn diwethaf yn Cape Town.
Na doedd hi ddim yn bert, doedd dim rhyw lawer o rygbi creadigol - yn wir ar adegau mi oedd hi'n ddiflas - ond fydd hynny'n poeni dim ar brif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland, a doedd y mwgwd hyd yn oed ddim yn gallu cuddio'i orfoledd ar y chwiban olaf.
Doedd y canlyniad, serch hynny, ddim yn sicr o bell ffordd ac ar yr egwyl doedd hi ddim yn argoeli'n dda i'r ymwelwyr.
Ar ei hôl hi o 12-3 bu'n rhaid i'r Llewod ddangos ysbryd a chymeriad a thrawsnewid y sefyllfa yn syth o'r ail ddechrau, a dyna'n union a ddigwyddodd.
Roedd cais y bachwr Luke Cowan-Dickie yn wobr haeddiannol wrth fentro am y pwyntiau allweddol.
Wedi hynny grym corfforol, bôn braich ac amddiffyn cadarn hyfforddwr yr amddiffyn - y Cymro Steve Tandy - dyma'n ennill y dydd.
Ond doedd hi ddim yn gwbl ddi-fai chwaith gyda sawl digwyddiad dadleuol yn yr ail hanner.
Dylanwad y swyddog teledu
Wedi'r holl sylw ynglŷn â rôl Marius Jonker yr wythnos ddiwethaf - roedd hi'n anorfod braidd y byddai'r swyddog teledu o Dde Affrica yn dod o dan y chwyddwydr ac roedd ei benderfyniadau'n sicr wedi dylanwadu ar drywydd y gêm.
Faint o ffactor oedd geiriau Warren Gatland wrth gwestiynu pam na oedd neb 'niwtral' ar gael does neb yn gwybod, ond ar ddwy achlysur dyma'n penderfynu dileu 'ceisiau' De Affrica yn yr ail hanner - fe allai ymdrech Willie Le Roux heb os wedi sefyll.
Roedd y Llewod hefyd yn eithriadol o lwcus i beidio colli dyn i'r gell gosb neu'n waeth.
Mae'n ddirgelwch sut y gwnaeth Hamish Watson osgoi'r dynged am dacl peryglus ar Le Roux - penderfynu peidio gweithredu gwnaeth Jonker.
Mae Gatland wedi bod yn feistr ar ennill y frwydr eiriol a'r gemau seicolegol ar hyd y blynyddoedd, ac unwaith eto dyma'n ennill ei fara menyn yn yr agwedd yma!
Tactegau'n taro deuddeg
I nifer o gefnogwyr pybyr sy'n dyheu am weld rygbi 15 dyn cyffrous a chreadigol, mae dulliau ac athroniaeth Gatland byth a beunydd wedi bod yn destun trafod.
Na does fawr o gariad gen i, a nifer mae'n siŵr, at yr hyn sydd wedi'i alw'n "Warrenball" - term mae'r dyn ei hun yn ei gasáu.
Ond fel 'nes i broffwydo ar drothwy'r gêm, rygbi pragmataidd, ceidwadol, saff sydd wedi dod i symbylu'r gŵr o Seland Newydd ar hyd ei yrfa, a dyw hynny ddim yn mynd i newid gyda buddugoliaeth y gyfres o fewn cyrraedd.
Yr hyn mae'n rhaid i'r gwybodusion a chefnogwyr gydnabod yw naw gwaith allan o 10 mae Gatland yn dewis y tîm cywir a'r tactegau priodol i ennill gemau pwysig.
Mae hyn wedi digwydd ar hyd ei yrfa boed i Wasps, Waikato, Cymru a'r Llewod, ac roedd y rheiny oedd yn disgwyl rhywbeth gwahanol yn amlwg wedi anghofio arddull Cymru am dros ddegawd.
Yr un peth fyddai wedi peri siom iddo oedd y dechreuad llafurus unwaith eto, bydd gofyn i'r ymwelwyr ddechrau'r gêm â'r un dwyster y tro hwn oherwydd allwch chi ddisgwyl ffyrnigrwydd y Springboks i godi sawl lefel.
Nôl yn 1997 yn King's Park, Durban, ar ôl ennill y prawf cynta' roedd y Llewod o dan y lach am gyfnodau maith cyn goroesi. Gyda'r gyfres yn y fantol eto, bydd ail brawf eleni ddim yn wahanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2021