'Taflu' merch, 2, i'w hachub wrth i gar daro ei mam
- Cyhoeddwyd
Mae mam a gafodd ei hanafu'n ddifrifol wedi i gar gwag rolio lawr llethr yn ystod gŵyl yn Sir Ddinbych yn dweud bod ei gŵr wedi achub eu merch ddyflwydd oed trwy ei thaflu allan o'r ffordd.
Cafodd Jenna O'Neill, 32, o Sir Gaerloyw, anafiadau a fydd yn newid ei bywyd ar ôl cael ei tharo gan gar yng ngŵyl Conscious Tribal Gathering, yng Nglyndyfrdwy, ger Corwen.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd wedi'r digwyddiad ddydd Sadwrn.
Mae'n dweud bod ei gŵr Stephen "yn arwr" am y ffordd yr achubodd ei merch, Ayla rhag cael ei tharo hefyd.
"Mae fy mhlentyn bach dyflwydd a hanner ond wedi goroesi'r digwyddiad yma achos bod fy ngŵr ei thaflu allan o lwybr y car wrth iddo gyflymu lawr y ffordd" meddai Mrs O'Neill, wrth siarad o'r ysbyty yn Stoke.
"Mae o'n arwr. Byddai pethau'n wahanol iawn oni bai iddo feddwl ac ymateb mor gyflym."
'Cerbyd gwag wedi rholio dros babell'
Dywedodd yr heddlu bod swyddogion wedi eu galw i adroddiad o gerbyd gwag oedd wedi taro pabell mewn gwersyll ger Corwen am tua 13:30 ddydd Sadwrn.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru "roedd dyn, dynes a phlentyn y tu allan i'r babell ar y pryd".
Mae'r llu'n cynnal ymchwiliad gan gydweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, ac yn apelio am wybodaeth.
"Roedden ni'n eistedd tu allan i'n pabell yn mwynhau'r heulwen a newydd gael cinio," meddai Ms O'Neill.
"Roedd y caeau gwersylla ar lethr serth. Roedden ni, fel llawer o bobl, wedi gwersylla ar y gwaelod achos dyna'r unig le gyda chysgod."
Cadarnhaodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cael eu galw wedi "adroddiadau o wrthdrawiad ffordd yn cynnwys cerddwyr" yn ardal Glyndyfrdwy tua 13:30 ddydd Sadwrn.
Dywedodd llefarydd bod un person wedi eu cludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke a dau berson wedi eu cludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod criwiau o Gerrigydrudion a Wrecsam wedi eu hanfon i'r gwersyll i sefydlogi'r car tra bod parafeddygon yn trin tri pherson.
"Fe wnaeth car oedd wedi ei barcio rolio lawr allt a tharo'r babell," meddai llefarydd. "Roedd y cleifion yn y babell."
'Ofni bod fy nheulu dan y car'
Dywedodd Stephen O'Neill ei fod yn meddwl bod ei fywyd "ar ben" o edrych ar yr olygfa yn syth wedi'r digwyddiad.
"Roedden ni'n eistedd tu allan i'n pabell yn cael cinio pan dynnodd [preswylwyr] pabell gyfagos ein sylw gan weiddi 'symudwch o'r ffordd'...
"Yn y foment honno ro'n i'n daer eisiau helpu Ayla... doedd dim llawer o amser rhwng y cymydog yn gweld y car a ninnau'n cael ein taro.
"Nes i wylio'r car yn rholio lawr y bryn a meddwl 'ma' nheulu i dan y car'. Ro'n i'n meddwl eu bod wedi marw a bod fy mywyd wedi chwalu."
Dywedodd iddo weld ei ferch yn gorwedd â'i hwyneb i lawr ar babell wedi cwympo ger olwyn y car.
"Ro'n i'n meddwl ei bod wedi marw. Roedd ganddi grafiad ar ei hwyneb a nes i gael golwg ar ei choesau a'i breichiau ac roedd hi'n iawn."
Dywedodd bod ei wraig "mewn cyflwr ofnadwy ond roedd yn poeni am ei merch".
"Roedd fy merch wedi gweld beth ddigwyddodd felly roedd rhaid imi ei symud o 'na pan gyrhaeddodd swyddogion cymorth cyntaf.
"Ro'n i'n cerdded nôl a 'mlaen ac yn ceisio cael Ayla i ymlacio a dim ond wedi hanner awr y dywedodd pobl wrtha'i fy mod wedi ei thynnu o'r babell a'i rhoi i'r ochor arall ond does gen i ddim cof o hynny."
'Ofni bod fy nheulu wedi marw'
Dywedodd Mrs O'Neill ei bod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog. Mae wedi torri'i phont yr ysgwydd, ei phelfis a 10 o'i hasennau, ac wedi cael niwed i'r afu a'r ddueg (spleen).
"Yn feddyliol dwi'n ailchwarae'r hyn a ddigwyddodd," meddai. "Ro'n i wir yn credu bod fy nheulu cyfan wedi marw."
Cafodd ei merch, Ayla fân doriadau i'w chroen ac fe dorrodd ei gŵr Stephen ei ffêr ond mae bellach wedi gadael yr ysbyty.
"Dwi'n cael trafferth dygymod â'r ffaith fy mod yn iach ac yn cael hwyl gyda fy nheulu ddeuddydd yn ôl a rŵan dwi methu symud ac mewn gwely ysbyty, a methu gweld fy nheulu achos dwi mor bell o adre oherwydd cyfyngiadau Covid," meddai Mrs O'Neill.
"Ond... dwi mor ymwybodol y gallai wedi bod gymaint gwaeth oni bai i fy ngŵr arwrol daflu ein plentyn bach allan o lwybr car oedd yn dod amdanon ni, felly dwi'n ddiolchgar bod nhw'n saff."
'Damwain ofnadwy'
Cafodd gŵyl Conscious Tribal Gathering ei chynnal rhwng dydd Iau a dydd Llun. Mae gwefan y digwyddiad yn ei ddisgrifio fel un sy'n rhoi cyfle i deuluoedd ymlacio gydag "eneidiau o'r un anian".
Mewn datganiad dywedodd y trefnwyr: "Fel y mae rhai ohonoch yn ymwybodol, roedd yna ddamwain ofnadwy ddydd Sadwrn... mae pawb wedi eu hysgwyd gan y digwyddiad.
"Mae ein calonnau a'n meddyliau gyda'r teulu a gafodd eu heffeithio ac rydym yn dymuno gwellhad cyflym a llwyr iddyn nhw."
Mae'r trefnwyr hefyd yn diolch pawb a roddodd cymorth mewn ymateb i'r digwyddiad.