Ymgynghoriad ar gerflun dadleuol o HM Stanley yn Ninbych

  • Cyhoeddwyd
Cerflun HM Stanley yn NinbychFfynhonnell y llun, Alexandra Derwen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerflun yn dangos HM Stanley'n paratoi i gyfarch yr anturiaethwr David Livingstone yn Affrica yn 1871

Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol cerflun dadleuol yn cael ei gynnal dros flwyddyn wedi iddo gael ei addo.

Mae'r cerflun o Henry Morton Stanley yn nhref Dinbych wedi bod yn bwnc trafod am dros ddegawd.

Yn dilyn protestiadau y llynedd wedi'r digwyddiadau arweiniodd at wrthdystiadau BLM, daeth galwadau gan nifer i dynnu'r cerflun gan yr artist Nick Elphick o'r dref.

Ym Mehefin 2020 fe wnaeth Cyngor Tref Dinbych, a gomisiynodd y cerflun yn wreiddiol, gynnal cyfarfod i drafod ei ddyfodol.

Pleidleisiodd aelodau o 6-5 i'w gadw, ond i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i benderfynu a fyddai'n cael ei gadw yn y tymor hir, neu ei dynnu oddi o olwg y cyhoedd.

Fe wnaeth y maer ar y pryd, y Cyngorydd Gaynor Wood-Tickle addo y byddai pobl Dinbych yn cael gwneud y penderfyniad drwy "bleidlais ddemocrataidd" wedi ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y mater.

Ffigwr dadleuol

Mae'r maer presennol, y Cynghorydd Rhys Thomas nawr wedi cadarnhau y bydd yr ymgynghoriad yn digwydd ym mis Hydref eleni.

Dywedodd: "Fe fyddai wedi digwydd erbyn hyn oni bai am gymhlethdodau Covid.

"Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus, o bosib am gyfnod o ddau ddiwrnod, yn neuadd y dref.

"Bydd y gwaith paratoi yn cael ei wneud ym mis Medi fel y gall y cyhoedd alw heibio, a gallwn ni gynnal pleidlais i weld beth yw teimladau pobl."

Cafodd HM Stanley ei eni gyda'r enw John Rowlands yn Ninbych yn 1841 cyn symud i America yn ei arddegau.

Daeth yn newyddiadurwr ac yna'n anturiaethwr, ond daeth yn ffigwr dadleuol oherwydd ei gysylltiad gyda'r brenin Leopold II o wlad Belg - bu'n gweithio i'r brenin yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (fel mae'n cael ei adnabod heddiw) lle cafodd nifer o'r brodorion eu cam-drin neu eu lladd.

Roedd yna wrthwynebiad o'r cychwyn pan osodwyd y cerflun tu allan i lyfrgell Dinbych yn 2011.

Fe wnaeth dros 50 o academyddion, awduron a ffigyrau amlwg arwyddo llythyr gan ddadlau fod Stanley'n euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth, ac o gynorthwyo gwladychu a chaethwasiaeth yn Affrica.

Pynciau cysylltiedig