Cyhuddo merch 16 oed o geisio llofruddio dyn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae merch 16 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio wedi ymosodiad mewn parc yng nghanol Nghaerdydd - fe gafodd y dyn anafiadau sy'n bygwth ei fywyd.
Mae dau ddyn eisoes wedi bod gerbron llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio wedi ymosodiad ym Mharc Bute oddeutu fore Mawrth 20 Gorffennaf.
Fe ymosodwyd ar y dyn 54 oed oddeutu 01:00.
Mae'r ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi ei chadw yn y ddalfa.
Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Caerdydd ddydd Mercher.
Cafodd ei harestio yn ardal Creigiau nos Lun.
Dywed Heddlu'r De bod y dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac nad ydyn nhw yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymosodiad.
Dywed y Prif Arolygydd Stuart Wales: "Rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu cymorth parod wrth i ni ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad.
"Er bod cyhuddo trydydd person yn ddatblygiad hynod o sylweddol, rydym yn parhau i apelio am dystion."
Ychwanegodd eu bod yn benodol am siarad ag unrhyw un a oedd yn ymyl y bont droed sy'n cysylltu Parc Bute â Gerddi Soffia rhwng hanner nos a 01:20 ar 20 Gorffennaf.
Bu Jason Edwards, 25 oed a Lee William Strickland, 36 oed gerbron llys ddydd Llun ar gyhuddiad o geisio llofruddio ac fe fyddant yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 23 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021