Ymosodiad Parc Bute: Dau ddyn gerbron llys

  • Cyhoeddwyd
Parc Bute

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys ac wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad "anwaraidd" a "pharhaus" ym Mharc Bute, Caerdydd yr wythnos diwethaf.

Ni wnaeth Jason Edwards, 25, a Lee William Strickland, 36 - y ddau o Gaerdydd - bledio i gyhuddiad o geisio llofruddio yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Cafodd dyn 54 oed ei anafu'n ddifrifol ac mae'n parhau i fod yn yr ysbyty ar offer cynnal bywyd wedi'r ymosodiad a ddigwyddodd yn oriau man fore Mawrth 20 Gorffennaf.

Mae'r ddau ddyn yn cael eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddynt ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 23 Awst.

Pynciau cysylltiedig