Storm Evert i daro mannau ar hyd arfordir de Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd am falurion yn hedfan a difrod i adeiladau wrth i dde Cymru baratoi am Storm Evert.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod "gwyntoedd grym cryf" o hyd at 65mya mewn rhai mannau arfordirol mwyaf agored yn debygol.
Mae'r rhybudd mewn grym o 20:00 ddydd Iau tan amser cinio ddydd Gwener.
Mae disgwyl i'r storm daro arfordir de Cymru - o Sir Fynwy yn y dwyrain, i Sir Benfro yn y gorllewin.
Y disgwyl hefyd ydy i law trwm gyd-fynd â'r gwyntoedd cryfion yma ar adegau.
Mae'r siroedd canlynol wedi'u cynnwys yn y rhybudd: Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.
Er bod y tebygolrwydd o ddifrod yng Nghymru yn is nag yn ne Lloegr, gallai darllediadau ffôn symudol gael eu heffeithio yn ogystal â gwasanaethau ffyrdd, rheilffyrdd a fferi.
Daw ychydig dros wythnos ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd gwres eithafol cyntaf y DU, a welodd y tymheredd yng Nghymru yn cyrraedd uchafbwyntiau o 32.2C (88.1F) yn ardal Gogerddan, ger Aberystwyth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021