Abertawe yn penodi Russell Martin yn brif hyfforddwr
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi penodi Russell Martin yn brif hyfforddwr yn dilyn ymadawiad Steve Cooper.
Mae Martin, 35, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r Elyrch.
Y gred yw bod Abertawe wedi talu tua £400,000 mewn iawndal i MK Dons i sicrhau gwasanaethau cyn-chwaraewr rhyngwladol yr Alban.
Bydd tri aelod o'i staff hyfforddi yn MK Dons yn ymuno â Martin yn Abertawe - Luke Williams, Matt Gill a Dean Thornton, tra bydd Alan Tate yn parhau fel hyfforddwr y tîm cyntaf.
Trodd Abertawe at Martin ar ôl i is-reolwr Queens Park Rangers, John Eustace wrthod symud i Gymru y penwythnos diwethaf.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe wnaeth Cooper adael ei swydd yn Stadiwm Liberty ym mis Gorffennaf wedi dwy flynedd yn y rôl.
Llwyddodd i arwain y clwb i gemau ail gyfle Y Bencampwriaeth yn ei ddau dymor wrth y llyw.
Yn y cyfamser, mae MK Dons wedi cyhoeddi datganiad yn dweud pa mor "hynod siomedig" yw'r clwb ynglŷn ag amseriad ymadawiad Martin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021