'Y Rhyl yn un o'r trefi mwyaf treisgar a difreintiedig'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

"'Da ni 'di tyfu fyny hefo'r stigma 'ma o'r Rhyl"

Mae tre glan môr Y Rhyl yn un o'r rhai mwyaf treisgar a difreintiedig yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ymchwil gan y BBC.

Cyn y cyfnod clo cyntaf fe gododd nifer yr achosion o drais a throseddau rhyw yn y dref bedair blynedd o'r bron.

Ond yn ystod y cyfnodau clo diweddaraf, roedd nifer yr achosion o droseddu yn is ar draws Prydain a dyna hefyd y patrwm yn Y Rhyl ac mae'r dre yn ceisio newid.

Wrth i glybiau nos ailagor yng Nghymru ar 7 Awst, dywed plismyn yn ardal Y Rhyl eu bod yn hynod o nerfus.

"Dwi'n credu bod Y Rhyl ar groesffordd ar y funud," medd yr Arolygydd Jason Davies, un a fagwyd yn y dref ac sydd bellach wedi dychwelyd yno fel uwch blismon.

"Rwy'n gwybod bod angen gweithio'n galed fan hyn," meddai, "ond mae gwella'r dref yn rhywbeth rwyf i'n bersonol am ei wneud a dwi'n angerddol am hynny."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywed plismyn bod cyffuriau yn broblem fawr yn Y Rhyl

Dywed yr Arolygydd Davies nad ffraeo ar y stryd wedi i'r tafarndai gau yw'r broblem bellach - ond cyffuriau.

"Mae gangiau," meddai, "fel arfer o Lerpwl yn gweithredu llinellau cyffuriau drwy'r Rhyl ac wrth i blismyn gael gwared ar un mae un arall yn ymddangos.

"Maent yn tueddu i fynd am bobl bregus," ychwanega'r Arolygydd Davies ond mae'n dweud mai nad cael mwy o blismyn yn yr ardal yw'r ateb.

"Amddifadedd cymdeithasol yw gwreiddyn y trais ac mae materion fel alcoholiaeth, camddefnydd o gyffuriau ac iechyd meddwl gwael yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth," meddai ac mae'n ychwanegu bod angen gwario arian "er mwyn mynd i'r afael â'r hyn sydd wrth wraidd y troseddu".

'Fe fyddai wedi fy lladd'

Fe wnaeth oddeutu 100 o deuluoedd yn Y Rhyl droi at y banc bwyd yn ystod y pandemig ac maent yn parhau'n ddibynnol arno.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae wedi bod yn gyfnod trawmatig wrth i ni wrando ar straeon pobl yn ystod y misoedd diwethaf'

Dywed Natasha Harper, sy'n gweithio i eglwys sy'n helpu pobl â thrafferthion, bod trais yn y cartref yn dod yn fwy o broblem wrth i bobl wynebu caledi.

"Mae wedi bod yn gyfnod trawmatig wrth i ni wrando ar straeon pobl yn ystod y misoedd diwethaf," medd Natasha.

"Mae rhai angen £300 y dydd fel bod aelod o'r teulu yn gallu parhau â'u harferion (yfed a chyffuriau) ond gan nad yw'r arian ganddynt mae nhw yn aml yn dial ar eu partneriaid.

"Yn aml dyw'r drosedd ddim yn cael ei chofnodi gan nad yw pobl yn teimlo y gallant fynd at yr heddlu.

"Maent yn rhy ofnus ac maent ofn colli'r plant."

Ychwanega Natasha, sydd wedi byw yn Y Rhyl am dros 20 mlynedd, bod ganddi brofiad cyson o gyn-bartner, a oedd yn gaeth i alcohol a chyffuriau, yn ymosod arni.

"Roedd o'n fy nharo a dwyn fy ngemwaith a'u gwerthu i gael cyffuriau, roedd yna lot o gam-drin emosiynol, esgyrn toredig a briwiau," meddai.

"Ac unwaith roedd o'n sefyll uwch fy mhen i gyda chadair. Roeddwn i'n gwybod petawn i methu dianc y byddai'n fy lladd. Fe lwyddais i frathu ei fraich ac yna ro'n yn gwybod bod yn rhaid i fi ffonio'r heddlu."

Fe ddaeth Natasha â'r berthynas i ben ac mae hi bellach yn canolbwyntio ar helpu eraill.

"Mae yna lawer iawn o bobl sy'n poeni allan yna," meddai.

'Anghofio am Y Rhyl'

"Mae'r troseddu sy'n digwydd yma yn rhoi enw gwael i'r lle," medd Hugh Evans, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych.

"Mae hynny wedi bod yn rhwystr wrth i ni geisio denu y sector breifat yma.

"Fe anghofion ni am Y Rhyl ar amseroedd tyngedfennol - yn niwedd yr 80au a dechrau'r 90au," meddai.

Dywed bod arweinwyr lleol a chenedlaethol i'w beio am y methiant ond mae'n ychwanegu bod y cyngor, Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd wedi gwario miliynau o bunnau yn ystod y blynyddoedd diweddar - yn arbennig ar lan y môr. Dywed ei fod yn credu y bydd arian cydraddoli llywodraeth y DU o gymorth.

'Rhwystredigaeth'

Mae'r Athro Tom Kirchmaier o'r London School of Economics yn un o'r rhai sydd wedi bod yn helpu i gasglu data y BBC gan adnabod ardaloedd lle mae cyfraddau uchel o droseddu yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r Rhyl yn un o'r ardaloedd oedd â dros 5,000 achos o drais fesul 100,000 o bobl - achosion a arweiniodd at farwolaeth neu anaf rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2021.

Mae o'n ofni y bydd mwy o achosion o drais yn y tymor byr.

Dywed bod "rhwystredigaeth mewn ardaloedd tlawd ac felly ry'ch yn gweld achosion o ymddygiad ymosodol ac anrhefn."

"Dyw gwaith yr heddlu ddim yn ofer," meddai, "ond rhaid i drais yn y cartref gael ei daclo yn wahanol i linellau cyffuriau."

Mae'n rhybuddio hefyd bod cael presenoldeb plismyn yn gyson yn debygol o fod yn llai effeithiol er mai dyna hoff ddull y cyhoedd o ddatrys troseddu.

'Gwarchod ein cymuned'

Wrth i'r dre geisio newid dywed John Lynn sy'n cynnal dosbarthiadau carati yn y dre bod y gwersi yn fodd i gadw pobl i ffwrdd o'r stryd.

Dywed un o'i ddisgyblion Ioan sy'n 16 ei fod yn clywed yn aml am achosion o werthu cyffuriau ac weithiau trywanu yn Y Rhyl a bod hynny yn creu pryderon am "ddiogelwch ffrindiau ac eraill".

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Lynn yn gobeithio bod y gwersi carati yn ennyn parch a disgyblaeth

Dywed John Lynn ei fod e'n falch o'r cannoedd o bobl ifanc y mae wedi eu hyfforddi ar hyd y blynyddoedd.

"Mae'r gwersi gobeithio yn rhoi hyder iddyn nhw wrthod cyffuriau a hefyd yn ennyn parch a disgyblaeth.

"Rwy'n gobeithio y bydd cronfeydd cyfartalu yn cael gwared ar y gangiau cyffuriau ond yn y cyfamser ry'n yn ceisio gwneud ein rhan.

"Ry'n yn ceisio gwarchod ein cymuned fesul tipyn."