Chwech o Gymru yn nhîm y Llewod i'r prawf olaf
- Cyhoeddwyd
Fe addawodd y prif hyfforddwr Warren Gatland y byddai newidiadau i dîm y Llewod ar gyfer y prawf olaf, ac mae wedi cadw at ei air.
Cyhoeddwyd chwe newid i'r 15 a ddechreuodd yr ail brawf yn Cape Town ddydd Sadwrn, gyda phedwar o'r newidiadau yn gweld Cymry yn dod i'r tîm.
Bydd Liam Williams a Josh Adams yn dechrau gêm brawf am y tro cyntaf yn yr olwyr gan ddisodli Stuart Hogg ac Anthony Watson.
Ymhlith y blaenwyr fe fydd Wyn Jones a Ken Owens yn dechrau yn y rheng flaen, gyda Mako Vunipola a Luke Cowan-Dickie yn ildio'u llefydd nhw yn y tîm.
Wedi dechrau da i'r daith, cafodd Wyn Jones anaf oedd yn golygu nad oedd ar gael am y ddau brawf cyntaf.
Bydd Alun Wyn Jones yn parhau yn gapten, ond does dim lle yn y garfan o 23 i Taulupe Faletau.
Fe fydd y mewnwr Ali Price a'r canolwr Bundee Aki yn dechrau hefyd, tra bod un Cymro arall ar y fainc, sef y clo Adam Beard.
Bydd y gic gyntaf yn y trydydd prawf am 17:00 ddydd Sadwrn, 7 Awst.
Y tîm yn llawn
Liam Williams; Josh Adams, Robbie Henshaw, Bundee Aki, Duhan Van der Merwe; Dan Biggar, Ali Price; Wyn Jones, Ken Owens, Tadhg Furlong, Maro Itoje, Alun Wyn Jones (c), Courtney Lawes, Tom Curry, Jack Conan
Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola, Kyle Sinckler, Adam Beard, Sam Simmonds, Conor Murray, Finn Russell, Elliot Daly.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2021