Yr Eisteddfod: 'Dating agency' gorau Cymru!

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lluniau o bedwar cwpwl

Mae'r Cymry yn caru'r Eisteddfod am nifer o resymau - seremonïau'r Orsedd, cyfarfod hen ffrindiau, gigs... a ffeindio partner am oes.

Wedi i'r awdur Jon Gower drydar ei fod yn dathlu ugain mlynedd o berthynas hapus gyda Sarah Hill ers ei chyfarfod ar Y Maes yn Ninbych yn 1991, fe alwodd y Brifwyl yn 'dating agency gorau'r genedl'.

Ac o'r ymateb, mae'n ymddangos bod nifer yn cytuno!

Jon Gower

Ffynhonnell y llun, Llun teulu/Emyr Jenkins

Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod yn Ninbych yn 2001 es i gyfweld Sarah Hill am ei gwaith 'da Tŷ Cerdd. Wnes i fwynhau sgwrsio gyda hi ac o hynny mlaen roeddwn yn galw mewn i'r stondin bob dydd am baned.

Ar y nos Iau aethom am ginio yn Llandudno ac ar y dydd Gwener bu'n cyfaill Tony Bianchi yn holi pwy oedd y fenyw 'na roedd Jon Gower yn cusanu ar y Maes!

Mae'n ugain mlynedd ers i Sarah a minnau gwrdd a 'dy'n ni heb gwmpo mas am unrhyw beth fyth ers hynny. Ac mae'r goeden eirin prin o Ddinbych a blannwyd yn ein gardd er mwyn cofnodi cwrdd yn 'Steddfod yn ffrwytho eleni am y tro cyntaf!

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Heledd Angharad

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Heledd Angharad
Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Evans oedd un o'r rhai wnaeth ymateb i drydar Jon Gower. Fe wnaeth o gyfarfod Beca Brychan mewn gig gomedi Tudur Owen a Beth Angell yn ystod Eisteddfod y Faenol 2005, a'r wythnos yma roedden nhw'n dathlu 16 mlynedd gyda'i gilydd

Ion Thomas

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ion a Lusa yn ôl yn yr Eisteddfod, yn Llanrwst 2019

Nid ar y maes y cwrddais i â'r ferch dlos wnaeth gipio fy nghalon yn yr Wyddgrug '91, ond mewn tafarn llawn o eisteddfodwyr swnllyd. Roedd hithau wedi penderfynu dianc o gig Rhiannon Thomas gyda'i ffrind Pwyll ap Sion ac yn eistedd yng nghornel y dafarn.

Roeddwn innau, os cofiaf wedi bod yn ymddiwyllio ym myd y theatr. Dysgais yn ddiweddarach i mi 'siarcio' fy ffordd tuag at y feinwen dlos. Mewn byr o dro, roeddem wedi gosod y seiliau am sgwrs a fyddai'n para' am oes.

Cofiaf adael y dafarn mewn criw gan anelu'n camre i'r gorlan goffi. Yno, wedi paneidio daeth y sylw addawol..."wel ble mae'r babell yma?"

Er nad oes plac ar wal y tŷ potes i goffáu'r cwrdd, dychwelasom gyda'r ddau fab i ddangos y man cwrdd pan ddychwelodd y Steddfod i'r ardal honno flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ken Owen

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Ro'n i'n graddio o Brifysgol Bangor ym mis Gorffennaf 1988 ac ym mis Awst roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd. Yn ystod yr Ŵyl mi oeddwn i a ffrind coleg, Ion Thomas o Gaerfyrddin (uchod), yn aros yn un o fflatiau'r nyrsys yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac yn cael amser wrth ein boddau!

Doedd Ion ddim yn gyrru ar y pryd, felly ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod mi ofynnodd imi ei yrru i'r Maes lle'r oedd yn cael ei gyfweld gan Hywel Gwynfryn ar gyfer rhaglen Helo Bobol. Sian oedd yn cynhyrchu y bore tyngedfennol hwnnw. Yn fy nyddiadur ar y pryd mi ydw i'n cofnodi bod y Sian 'ma "yn ferch hynod o glên"!

Mi gafodd Sian a minnau (ac Ion!) swper rhamantus yn ffreutur y Royal Gwent yn ystod yr wythnos cyn symud ymlaen i Theatr y Dolman i weld drama. A dyna ni. Flynyddoedd wedyn mi ddywedodd Sian ei bod hi wedi sylwi fy mod i a hithau'n chwerthin yn yr un llefydd yn ystod y ddrama.

Wythnos ar ôl y Steddfod a minnau adref yn Sir Fôn mi ganodd y ffôn un bore. Sian oedd yno. Roedd cartref ei theulu bedair milltir i lawr y lôn ac roedd hi'n dod i fyny am y penwythnos.

Mi drefnon ni i gwrdd am bryd o fwyd a mynd i weld ffilm Fatal Attraction yn Theatr Gwynedd! Y syniad oedd y byddai ffilm yn handi petaen ni'n brin o bethau i'w dweud wrth ein gilydd! Doedd dim rhaid poeni - fuon ni'n sgwrsio tan oriau mân y bore.

Chwe wythnos yn ddiweddarach mi oeddwn i'n symud i lawr i Gaerdydd i fyw efo Sian. A chwe mis ar ôl cwrdd mi oeddan ni'n dyweddïo. Mi briodon ni yn 1990 ac Ion oedd y gwas priodas.

Maes o law mi adawson ni Gaerdydd ac ymgartrefu ym Môn. Fuon ni'n briod am 23 o flynyddoedd a gawson ni dri o blant, Gruffydd, Heledd a Morfudd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Bu farw Sian ym mis Hydref 2013 yn 48 mlwydd oed.

Mi fydden ni'n arfer dweud wrth ein gilydd pa mor ffodus fuon ni i gwrdd. I ffawd a'r Eisteddfod Genedlaethol y mae'r diolch am hynny.

Elgan Rhys

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dylan ac Elgan

Ym Mae Caerdydd, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 - union dair blynedd yn ôl - gyda chwpan llawn Wrexham Lager fe ddaru'r dawnsio meddwol ddod i stop am ennyd. A hynny oherwydd weles i Dylan. Ei lygaid glas yn adlewyrchu goleuadau set Diffiniad.

O'n i'n rhy wylaidd i ddechrau'r sgwrs bryd hynny, hyd yn oed gyda hyder y cwrw. 'Dyw Dylan ddim yn cofio'r llygadu; felly dwi'n swnio'n crîpi - ond dim ots am hynny, oherwydd ymhen ychydig fisoedd, mewn i'r Hydref, ges i'r dêt gyntaf orau erioed yn Tiny Rebel gyda Dylan.

A pan ewn ni mewn i'r Hydref sydd rownd y gornel, bydd hi'n dair blynedd ers i ni ddweud 'caru ti' am y tro cyntaf.

Felly, yng ngeiriau Jon Gower - "diolch i'r Brifwyl, dating agency gorau'r genedl."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig